Disgwyl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo felodrom newydd
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd benderfynu ar gynlluniau wythnos nesaf i adeiladu felodrom newydd yn y brifddinas.
Y bwriad yw adeiladu trac dros 300 metr o hyd yn ogystal a thŵr gwifren wib ym mhentref chwaraeon Bae Caerdydd.
Bydd y datblygiad newydd yn golygu bod y felodrom bresennol yn ardal Maendy yn cau gyda'r safle yn cael ei ddefnyddio i ymestyn ysgol uwchradd yr ardal.
Ers Gemau'r Gymanwlad nôl yn 1958 mae miloedd wedi bod ymarfer eu camp ac yn cystadlu yn y felodrom - yn eu plith Geraint Thomas, Elinor Barker ac Owain Doull.
'Neis cael un newydd'
Dywedodd y cyn-seiclwr proffesiynol, Eifion Weinzweig, wnaeth ddechrau ei yrfa gyda chlwb y Maindy Flyers, ei bod hi'n hen bryd moderneiddio.
"Mae'n drac gwych," meddai. "Dwi'n hoffi reidio yn Y Maindy ond pan fi'n mynd o gwmpas mae cwpl o slabs ar ochr y trac wedi sinco tipyn bach - felly ti'n mynd lan a lawr, lan a lawr.
"Fi'n credu bydd yn neis i gael felodrom newydd, technoleg newydd - fel bo ni'n gallu seiclo pan mae'n bwrw glaw a phan mae'n oer."
Mae'r felodrom newydd yn rhan o gynllun ehangach gan Gyngor Caerdydd - eisoes mae'r pentref chwaraeon yn y Bae yn cynnwys y pwll rhyngwladol a'r ganolfan iâ.
Mae cynllun ar gyfer y felodrom newydd yn cynnwys tŵr gwifren wib, caffis a siop feics.
Ar ôl campau arwrol Geraint Thomas mae mwy a mwy wedi ymddiddori mewn seiclo ac mae'r cyngor sir yn gobeithio y bydd y felodrom newydd yn elwa ar hynny.
"Dwi'n meddwl bod buddugoliaeth Geraint Thomas yn sicr wedi creu ymwybyddiaeth o seiclo yng Nghymru - falle wedi ysbrydoli'r genhedlaeth iau," medd Gruffudd Ab Owain, sy'n flogiwr seiclo.
"Mae yna gyfleusterau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru erbyn hyn.
"Dwi'n meddwl bod y twf mewn seiclo wedi cynyddu pan ddaeth y Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012 - seiclo oedd y gamp lle'r oedd Prydain yn gwneud orau ynddi."
Y disgwyl y bydd Cyngor Caerdydd yn rhoi sêl bendith i'r felodrom newydd ddydd Iau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2017