Mwy o her na'r disgwyl i'r Llewod gan y Sharks
- Cyhoeddwyd
Fe gurodd y Llewod y Sharks yn gyfforddus yn nhrydedd gêm eu taith i Dde Affrica, er i'r gwrthwynebwyr roi tipyn o fraw iddyn nhw yn yr hanner cyntaf.
Roedd y Sharks ar y blaen ddwywaith mewn hanner a welodd pedwar cais yr un gan y ddau dîm a sgôr gyfartal ar yr egwyl.
Ond fe newidiodd trywydd y gêm yn dilyn cerdyn coch i fewnwr y Sharks, Jaden Hendrikse yn gynnar yn yr ail hanner, ac roedd y fuddugoliaeth yn gyfforddus yn y pen draw, gyda sgôr derfynol o 31-71.
Daeth 16 o bwyntiau'r Llewod o ganlyniad wyth trosiad gan Dan Biggar, wnaeth hefyd greu un o'r cyfleoedd arweiniodd at un o geisiau ei dîm.
Roedd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd am yr eildro mewn pedwar diwrnod wedi i'r gêm oedd i fod i ddigwydd ddydd Sadwrn, yn erbyn y Bulls, gael ei gohirio oherwydd achosion coronafeirws.
Fe gurodd y Llewod y Sharks 7-54 ganol yr wythnos yn Johannesburg. Roedd disgwyl felly bod y llifddorau ar fin agor unwaith yn rhagor pan sgoriodd Chris Harris gais cyntaf y Llewod lai na phum munud wedi'r gic gyntaf yn Stadiwm Loftus Versfeld, Pretoria ddydd Sadwrn.
Ond er syndod i bawb, fe darodd y Sharks yn ôl a rhyw 10 munud yn ddiweddarach roeddan nhw 12-7 ar y blaen a thro'r ymwelwyr oedd hi i geisio cau'r bwlch.
Fe wnaethon nhw hynny wedi cais gan y capten, Jamie George, ond am unwaith fe fethodd Biggar ag ychwanegu pwyntiau gyda throsiad.
Er cyfnod da o feddiant gan y Llewod aeth y Sharks ar y blaen eto gyda'u trydydd cais i'w gwneud hi'n 19-12.
Funud yn ddiweddarach roedd y gêm yn gyfartal eto, diolch i raddau helaeth i ddau o'r Cymry yng ngharfan y Llewod. Carlamodd Biggar o ganol y cae gan basio i Liam Williams, a basiodd y bêl at Duhan van der Merwe i'w tirio.
Wedi 36 o funudau roedd y Sharks unwaith eto ar y blaen wedi'u pedwerydd cais, ac ail gais Anthony Volmink. Ond fe wnaeth cais Tadhg Beirne ym munud olaf yr hanner cyntaf unioni'r sgôr unwaith yn rhagor i'w gwneud hi'n 26-26 ar yr egwyl.
Mantais un chwaraewr ychwanegol
Roedd yna ddechrau cyffrous i'r ail hanner hefyd cyn i fewnwr y Sharks, Jaden Hendrikse weld cardyn coch am daro cefn pen Liam Williams gyda'i ben-elin un wrth ei daclo.
Daeth mantais cael chwaraewr ychwanegol i'r amlwg yn fuan gan arwain at gais cyntaf mewnwr Iwerddon, Jack Conan i'r Llewod, ac o fewn dim roedd Elliott Daly wedi sgorio'u chweched.
Parhau i frwydro wnaeth 14 dyn y Sharks, a gynyddodd eu sgôr i 31-38 wedi cais Werner Kok.
Yn fuan wedyn roedd hi'n 31-45 wedi ail gais Jamie George, a gafodd ei eilyddio cyn gallu anelu am drydydd cais. Ken Owens ddaeth i'r maes yn ei le.
Cynyddodd y Llewod y pwysau, ac fe gafodd Wyn Jones ei atal wrth anelu am y llinell. Ond roedd cais arall yn siŵr o ddod - ac fe ddaeth, diolch i Anthony Watson wedi pas gan Biggar i Anthony Watson a diriodd.
Wedi ceisiau pellach gan Beirne a Tom Curry, a rhagor o drosiadau llwyddiannus, roedd hi'n 31-66. Cafodd Conor Murray ei hel i'r gell gosb gyda phedwar o funudau'n weddill.
Gyda'r Sharks yn amlwg wedi blino, fe sgoriodd Watson gais olaf y gêm i'w gwneud hi'n 31-71.
Roedd yna ddigon o gyffro felly, gyda'r Llewod yn sgorio 11 o geisiau ac yn ildio pump.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2021