Y mynyddwr o Eryri sy'n helpu cwmnïau i ddarganfod olew
- Cyhoeddwyd
Mae'r mynyddwr a'r rhedwr Gareth Hughes o Benisarwaun yng Ngwynedd yn gweithio i'r diwydiant olew mewn rhannau mynyddig ac anghysbell o'r byd - gwaith mae mewn sefyllfa unigryw i'w gwneud oherwydd ei fagwraeth a'i hyfforddiant ar lethrau Eryri.
Oherwydd y lefel o ffitrwydd a'r wybodaeth am fynydda sydd ei hangen i wneud y swydd, ychydig o bobl sy'n gymwys i'w gwneud hi.
Ers 2007 mae Gareth wedi bod yn gweithio fel swyddog iechyd a diogelwch i gwmnïau olew mewn llefydd fel Yemen, Libya, Gorllewin Affrica, Albania ac Irac.
Mae'r swydd yn gallu bod yn beryglus oherwydd amgylchiadau anodd mewn gwledydd ansefydlog a'r risg o ffrwydron tir, heb sôn am anifeiliaid gwyllt fel nadroedd, scorpions a baeddod gwyllt.
Shell
Mae Gareth yn gweithio i gwmni sy'n cynhyrchu gwybodaeth seismig i gwmnïau nwy ac olew fel Shell - fo sy'n gyfrifol am oruchwylio diogelwch y criwiau a'r gweithwyr lleol wrth iddyn nhw chwilio am olew yn y mynyddoedd.
Roedd yn siarad gyda Dewi Llwyd ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru, o ardal Gwrdaidd Irac lle mae wedi dechrau gweithio ers symud o Albania.
"Mae'n eitha' anghysbell, ynghanol y mynyddoedd, ddim yn y bell o dref Shaqlawa efo mynyddoedd eitha' mawr o'n cwmpas ni, y Taurus, i'r dwyrain - dydyn ni ddim yn bell o ffin Twrci ac Iran," eglurodd Gareth.
"Y rheswm ydan ni yma yn y pen draw ydi iddyn nhw gael y data i ffeindio allan y lle gorau i roi'r rig olew ar y mynydd."
Rhedeg dros Gymru
Oherwydd natur gorfforol y gwaith, y tirwedd a'r tymheredd dros 40C, mae ffitrwydd yn hollbwysig i'r swydd.
"Mae'n bwysig iawn i gadw'n ffit yn enwedig efo'r gwres ond mae'n cymryd amser i ddod i arfer efo'r gwres a'r llwyth mae rywun yn ei gario - hyd at 20kg o offer weithiau mewn tirwedd andros o fynyddig."
Fel rhedwr sydd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain yn y gamp, dydi hynny ddim yn broblem iddo ac mae'n ei helpu i gadw'n heini, meddai.
Ffrwydron Saddam Hussein
Un o'r peryglon sy'n benodol i Gwrdistan lle mae Gareth yn gweithio ar hyn o bryd yw'r ffrwydron tir sydd wedi eu gadael ar ôl ers rhyfeloedd y gorffennol rhwng y Peshmerga (byddin Cwrdistan) a byddin Irac dan arweiniad Saddam Hussein.
Mae'r ardal wedi ei galw'n un o'r rhai gwaethaf yn y byd am ffrwydron tir hanesyddol
Ydy Gareth yn poeni am ei ddiogelwch?
"I raddau bob tro dwi'n dod yn ôl allan ar ôl cyfnod hir o fod adra mae rhywun yn meddwl amdano fo fwy, ond ar ôl bod yma ers ychydig o fisoedd 'dach chi'n ymgolli mewn i'r gwaith a diwylliant yr ardal hefyd."
Cario gynnau
Mae'n nhw'n gweithio gyda ac yn dod i adnabod y bobl leol yn dda ac yn dibynnu arnyn nhw am ddiogelwch a gwybod beth sy'n digwydd yn yr ardal, meddai Gareth.
"Rydyn ni'n gorfod cael y peshmerga sydd efo gynnau efo ni - mae hynny'n rhan o weithio efo'r byd olew yn Irac."
Yn ôl Gareth does dim gwrthwynebiad yn lleol iddyn nhw ran amlaf gan fod y cwmnïau yn dod â gwaith i bobl leol.
Ond gan fod y pentrefi yn cael iawndâl gan y cwmni sy'n chwilio'r tir am olew, mae helynt yn gallu codi rhwng pentrefi sy'n cael y gwaith a'r arian a'r rhai sydd ddim.
Byd dringo Llanberis
"Llond llaw sy'n gwneud y gwaith, y rhan fwyaf yn dod o Lanberis!" meddai Gareth.
"Mae pawb yn adnabod ei gilydd yn y byd dringo - mae rhywun yn tueddu i awgrymu rhywun maen nhw'n ei adnabod o'r byd dringo sydd efo'r cymwysterau i weithio yn y maes."
Wedi astudio i fod yn bensaer, fe geisiodd Gareth am y swydd drwy ei gysylltiadau gyda'r gymuned dringo yn Llanberis am nad oedd yn mwynhau gweithio mewn swyddfa. Roedd hefyd yn cynnig mwy o arian.
"Roedd yn dipyn o sioc i fi fel rhywun o Penisarwaun," meddai am symud i Yemen yn 25 oed.
"Da ni ddim yn cael gweithio ar ben ein hunain - ti bob tro efo rhywun.
"Mae bod yn y mynyddoedd yn beryg - rydan ni yn gorfod meddwl yn galed am be' rydan ni yn gwneud.
"Dydi o ddim fel troi dy ffêr ar mynydd yn Eryri - os ti yn brifo yma ni sydd yn edrych ar ôl ein hunain."
Yr amgylchedd ac ôl-troed carbon
Beth am ei gydwybod am weithio yn y diwydiant olew?
"I fi yn bersonol dwi'n edrych ar fy hun fel person gofal a diogelwch - os dwi ddim yn gwneud y gwaith byddai rhywun arall yn ei wneud o yn lle fi...
"Yn bendant mae hedfan allan a'r gyrru o gwmpas yn wael o ran carbon footprint.
"Dwi'n teimlo fel fy mod yn rhan da o'r broses a mae'r bobl leol yn edrych arnon ni fel'na."
Mae'r gwaith yn tueddu i ddod mewn cyfnodau meddai Gareth ac mae'n dibynnu ar brisiau olew, ond dydi o ddim yn gweld y bydd na gyfnod hir iawn i'r math yma o waith.
"Mae olew yn mynd yn llai ffasiynol felly dwi ddim yn gweld fydd o'n mynd am hir.
"Mae'r gwaith yn rhedeg allan a chwmnïau yn newid eu ffyrdd ac mynd yn fwy gwyrdd yn y ffordd maen nhw'n gweithio."