Dyn, 18, wedi ei gyhuddo o lofruddio Kyle Walley yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Kyle Patrick WalleyFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Mr Walley y byddai'n cael ei golli'n fawr

Mae dyn 18 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o drywanu Kyle Walley i farwolaeth yn Wrecsam.

Yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Iau, cafodd Mark Jones, o Wrecsam, ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Dywedodd yr erlyniad fod Mr Jones wedi trywanu'r dyn 19 oed yn ei frest mewn digwyddiad yng nghartref Mr Walley yn Eglwysfan, Rhosymedre, ar 11 Gorffennaf.

Cafodd Mr Walley ei ganfod gan swyddogion heddlu ar ôl i'r gwasanaethau brys gael eu galw i'r tŷ.

Yn ymddangos yn y llys gyda'i fraich mewn sling, siaradodd Mr Jones ond i gadarnhau ei fanylion personol, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Pynciau cysylltiedig