Dirwy i ddyn am drefnu protest yn erbyn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Matthew Ginsberg
Disgrifiad o’r llun,

Matthew Ginsberg yn cyrraedd Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener

Mae dyn wedi ei gael yn euog o dorri cyfyngiadau Covid ar ôl trefnu protest yn erbyn y cyfnodau clo.

Bydd yn rhaid i Matthew Ginsberg, 42, o Fethel ger Caernarfon dalu dros £5,000 am dorri rheolau Covid mewn protest fis Tachwedd diwethaf ar bromenâd Llandudno.

Cafwyd yn euog o drefnu digwyddiad awyr agored a fynychwyd gan fwy na 30 o bobl, ail gyhuddiad o ymgynnull gyda mwy na phedwar o bobl mewn man cyhoeddus a thrydydd cyhuddiad o fethu ag ildio i fechnïaeth.

Gwadodd Mr Ginsberg yr honiadau yn Llys Ynadon Llandudno a dywedodd y fainc wrtho sawl gwaith i beidio ag ymyrryd â'r achos llys.

Clywodd y llys ddau adroddiad heddlu am ddigwyddiadau, a dangoswyd lluniau teledu cylch cyfyng o swyddogion yn ceisio dod â'r brotest i ben.

'Smash Tyranny'

Er i Ginsberg gyfaddef ei fod wedi cario amp a meicroffon i Landudno y diwrnod hwnnw, honnodd iddo fynd â nhw er mwyn i bobl ei glywed yn ymarfer ei hawl i ryddid i lefaru.

Gwadodd Matthew Ginsberg fod yn drefnydd y brotest, gan ddweud: "Wnes i ddim trefnu'r digwyddiad, a does gennych chi ddim tystiolaeth."

Honnodd fod y bobl eraill wnaeth ymgynnull yno o'u dewis eu hunain.

Roedd gan Matthew Ginsberg rôl ganolog mewn tudalen Facebook o'r enw 'Smash Tyranny', a nododd yr erlyniad fod y brotest wedi'i hysbysebu yno.

Cyfaddefodd mai ef oedd y cyntaf i annerch y dorf o tua 30 o bobl, ond honnodd fod pobl wedi cyrraedd yno o'i flaen.

Clywodd y llys y gwelwyd Mr Ginsberg yn gwahodd pobl i'r bandstand i siarad a rhoddodd y meicroffon iddyn nhw.

Cafodd ddirwy o £3,480 am y cyhuddiad cyntaf a £1,760 am yr ail, a chafodd ei orchymyn i dalu £6 yr wythnos.

Gadawodd Ginsberg y llys gan nodi y byddai'n apelio.