Rheolau Covid Cymru yn llacio eto ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfyngiadau coronafeirws yn parhau i lacio yng Nghymru ddydd Sadwrn wrth i'r wlad symud yn swyddogol i lefel rhybudd 1.
Mae'n golygu y bydd rhai rheolau yn cael eu codi, gyda hyd at chwech o bobl yn cael cyfarfod mewn cartrefi preifat, a phellter cymdeithasol yn cael ei ddileu tu allan.
Mae digwyddiadau dan do wedi'u trefnu hefyd yn dechrau cael eu cynnal gyda hyd at 1,000 o bobl yn eistedd a 200 yn sefyll.
Daw er gwaethaf y cynnydd mewn cyfraddau Covid, gyda dros 156 o achosion fesul pob 100,000 o bobl yng Nghymru.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi annog y cyhoedd i aros yn wyliadwrus.
"Nid yw'r pandemig drosodd ac mae'r feirws yn parhau i ledaenu ledled Cymru," rhybuddiodd ddydd Mercher.
"Mae gennym ni le i barhau i gael gwared ar gyfyngiadau yn raddol, ond mae gan bob un ohonom ran bwysig iawn i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel wrth i ni fynd i'r haf."
Dangosodd y ffigyrau brechu diweddaraf ddydd Gwener fod 75% o oedolion yng Nghymru bellach wedi cael y ddau ddos.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y brechiadau wedi golygu bod y cysylltiad rhwng heintiau a salwch difrifol wedi ei "wanhau" ond heb ei "dorri".
"Mae pobl Cymru wedi cofleidio ein hymdrechion i oresgyn y feirws ofnadwy hwn trwy ddweud ie wrth y brechlyn achub bywyd hwn a diolchaf i bawb sydd wedi manteisio ar gynnig y brechlyn," meddai'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.
Beth sy'n newid ddydd Sadwrn?
Gall hyd at chwech o bobl gwrdd tu mewn i gartrefi preifat a llety gwyliau;
Gellir cynnal digwyddiadau dan do wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 yn eistedd a hyd at 200 yn sefyll;
Gall rinciau iâ ailagor;
Dim cyfyngiadau ar faint o bobl sy'n gallu cwrdd yn yr awyr agored mewn mannau cyhoeddus, neu mewn digwyddiadau;
Nid yw'r terfyn chwe pherson yn berthnasol os yw pawb o'r un cartref neu aelwyd estynedig.
Beth sy'n newid o 7 Awst?
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd y newidiadau yma'n dod i rym o ddydd Sadwrn, 7 Awst - os yw'r amodau'n caniatáu:
Dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd ag eraill;
Bydd pob busnes ac adeilad yn gallu ailagor;
Bydd disgwyl i gwmnïau gynnal asesiad risg;
Bydd angen masgiau wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth dderbyn gofal iechyd, ond nid mewn lletygarwch (caffis, tafarndai a bwytai) nac addysg;
Ni fydd angen i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif.
Ond mae ofnau y gallai gwahaniaethau yng nghyfreithiau Covid rhwng Cymru a Lloegr arwain at "rywfaint o ffrithiant" wrth i ymwelwyr barhau i groesi'r ffin dros yr haf.
Yn Lloegr o ddydd Llun, 19 Gorffennaf bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus yn dod i ben.
Bydd yr holl fusnesau a lleoliadau caeedig sy'n weddill yn cael ailagor hefyd, gan gynnwys clybiau nos, gyda'r holl derfynau capasiti hefyd i gael eu dileu.
Ond yng Nghymru, lle mae iechyd y cyhoedd yn fater datganoledig, mae'r rheolau'n wahanol, gyda gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol ym mhob man cyhoeddus dan do am dair wythnos arall o leiaf oni bai bod eithriad iechyd yn berthnasol.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher, anogodd AS Arfon Hywel Williams y Prif Weinidog, Boris Johnson i "wneud hi'n glir bod yn rhaid i'r rhai sy'n ymweld â Chymru yr haf hwn gadw at gyfreithiau Cymru".
Dywedodd wrtho am egluro hynny ar reoliadau Covid ac mai dim ond dros Loegr y gallai siarad.
Mewn ymateb, dywedodd Boris Johnson: "Rwy'n credu y dylai pobl gadw at y rheolau a'r arweiniad lle bynnag maen nhw. Mae [Mr Williams] yn llygad ei le i siarad am ddull pwyllog."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021