Plaid yn galw am beidio llacio os ydy achosion ar gynnydd
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai Cymru barhau gyda'r bwriad i lacio mwyafrif y cyfyngiadau Covid ar ddechrau Awst os ydy achosion yn dal i gynyddu, medd Plaid Cymru.
Os ydy'r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn sefydlog, bydd mwyafrif y cyfyngiadau yn cael eu diddymu ar 7 Awst yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei fod yn gobeithio y bydd modd llacio ymhellach bryd hynny, ond bod angen bod yn barod i arafu'r llacio os nad ydy nifer yr achosion yn sefydlogi.
Ond dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles bod cynnydd mewn achosion ddim yn peri'r un risg bellach oherwydd bod brechu'n golygu nad oes cymaint angen triniaeth ysbyty.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud y bydd unrhyw lacio yn cael ei adolygu yn ofalus.
O 7 Awst y gobaith ydy na fydd unrhyw gyfyngiad ar nifer y bobl all gwrdd â'i gilydd mewn unrhyw sefyllfa, a bydd modd i glybiau nos ailagor.
Ond bydd mygydau yn parhau'n orfodol mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth dderbyn gofal iechyd, ond nid mewn lletygarwch (caffis, tafarndai a bwytai) nac addysg.
Cafodd rhai cyfyngiadau eu llacio ddydd Sadwrn, gyda hyd at chwech o bobl yn cael cyfarfod mewn cartrefi preifat, pellter cymdeithasol yn cael ei ddileu tu allan, a digwyddiadau dan do yn cael ailddechrau gyda hyd at 1,000 o bobl yn eistedd a 200 yn sefyll.
'Balch bod Cymru ddim yn dilyn Lloegr'
Yn siarad ar raglen Politics Wales dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod yn "falch bod Cymru ddim yn dilyn Lloegr, lle mae'r amserlen yn gwbl anghyfrifol".
"Dwi'n falch bod 'na oedi yma a dyddiad wedi cael ei osod ym mis Awst," meddai.
"Ond 'da ni angen gwybod bod y llywodraeth yn mynd i fod yn gwneud penderfyniad ar y pwynt hwnnw, a bod yn barod i gymryd cam yn ôl os oes angen.
"Dwi eisiau ein gweld ni'n symud ymlaen, ond mae'n rhaid iddo fo wastad fod yn seiliedig ar dystiolaeth."
Erbyn dydd Gwener roedd nifer yr achosion newydd yng Nghymru wedi cynyddu i gyfartaledd o 704 y diwrnod - i fyny o 553 yr wythnos flaenorol.
Yn y ffigyrau diweddaraf ddydd Iau roedd 140 o gleifion Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru - 1.7% o'r holl gleifion.
Dywedodd Mr ap Iorwerth ei fod yn parhau'n obeithiol y bydd modd llacio mwyafrif y cyfyngiadau ar 7 Awst, ond bod angen ailfeddwl os ydy'r sefyllfa'n parhau i waethygu.
"Dwi'n gobeithio erbyn hynny y byddwn ni ar gyfnod lle fydd achosion yn dod i lawr, a dyna'r disgwyliad - y byddwn ni'n cyrraedd pegwn cyn diwedd mis Gorffennaf," meddai.
"Os ydy hi'n ymddangos ein bod ni mewn lle sydd yn tywyllu o hyd ar 7 Awst, mae'n rhaid i'r llywodraeth fod yn barod i oedi ymhellach, tra'n symud yn y pendraw tuag at lacio'r cyfyngiadau yn llwyr."
'Ystyried yr holl ffactorau'
Ond yn ôl Mr Miles mae llwyddiant y rhaglen frechu yn golygu nad ydy cynnydd mewn achosion bellach â'r un lefel o risg â'r llynedd.
"Yn amlwg, os ydy nifer yr achosion yn parhau ar lefel uchel, fe fyddai hynny'n peri pryder," meddai.
"Ond dydw i ddim yn credu ein bod mewn safle ble fo'n rhaid i ni ystyried un ffactor yn unig.
"Y nifer sydd angen triniaeth ysbyty, y nifer sydd wedi brechu a'r system olrhain - mae'n rhaid ystyried y ffactorau hynny i gyd," meddai.
Ddydd Mercher fe wnaeth y Mr Drakeford ddefnyddio'r Iseldiroedd ac Israel - sydd wedi gorfod ailgyflwyno cyfyngiadau - fel tystiolaeth ei bod yn "bosib cael pethau'n anghywir" o ran llacio.
Rhybuddiodd y gallai llacio, hyd yn oed mewn ffordd ofalus, wastad arwain at gynnydd mewn achosion, ac y byddan nhw yn cadw golwg fanwl ar y data oherwydd hynny.
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud mai dim ond cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sydd angen triniaeth ysbyty neu amrywiolyn newydd ddylai oedi'r llacio.
Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Russell George: "Fe ddylai Cymru symud i lefel rhybudd 0 ar 7 Awst, a dim ond cynnydd sylweddol yn nifer y bobl syd angen triniaeth ysbyty neu amrywiolyn newydd o bryder ddylai fod yn rhesymau am oedi," meddai.
Beth sydd i fod yn newid o 7 Awst?
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y newidiadau yma'n dod i rym o ddydd Sadwrn, 7 Awst - os yw'r amodau'n caniatáu:
Dim cyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cwrdd ag eraill;
Bydd pob busnes ac adeilad yn gallu ailagor;
Bydd disgwyl i gwmnïau gynnal asesiad risg;
Bydd angen masgiau wyneb mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth dderbyn gofal iechyd, ond nid mewn lletygarwch (caffis, tafarndai a bwytai) nac addysg;
Ni fydd angen i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn hunan-ynysu os ydyn nhw'n dod i gyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif.
Hefyd ar Politics Wales dywedodd y Gweinidog Addysg bod Llywodraeth Cymru'n ystyried newid y rheolau ar hunan-ynysu i blant a phobl ifanc dan 18 oed os ydy cysylltiad agos yn cael prawf positif am Covid.
Dywedodd Mr Miles eu bod yn cynnal trafodaethau am y newid oherwydd bod plant yn "llai tebygol o gael niwed".
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi newid y polisi yn Lloegr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd pobl sydd wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn yn gorfod hunan-ynysu os ydyn nhw wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar y polisi hwnnw ar ddechrau Awst, pan fydd gweinidogion hefyd yn penderfynu a fydd mwyafrif y cyfyngiadau'n cael eu llacio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021