Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth 'heb esboniad'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i gorff dyn 50 oed gael ei ddarganfod ym Mro Morgannwg.
Mae Heddlu De Cymru wedi cau ardal i'r cyhoedd wedi i'w swyddogion gael eu galw i adeilad yng nghanol Llanilltud Fawr.
Dywedodd y llu bod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un "heb esboniad".
Ychwanegwyd eu bod yn ymchwilio a bod eu hymholiadau yn parhau.