Rhybudd i ymwelwyr wedi cynnydd gwrthdrawiadau ffordd

  • Cyhoeddwyd
A40

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar ymwelwyr i fod yn bwyllog ac yn amyneddgar dros yr haf yn dilyn cynnydd diweddar mewn gwrthdrawiadau ffordd yn yr ardal.

Mae ystadegau'r llu yn dangos y cafodd saith o bobl eu hanafu yn ddifrifol neu eu lladd mewn damweiniau ym mis Mawrth.

Cynyddodd y nifer i 17 ym mis Ebrill, 18 ym mis Mai a 21 ym mis Mehefin.

Pryder yr heddlu yw bod y cynnydd yn gysylltiedig gyda'r niferoedd cynyddol o bobl sydd yn treulio eu gwyliau yng Nghymru.

Mae AS lleol wedi galw am welliannau ar yr A40, "un o'r ffyrdd mwyaf peryglus yng Nghymru", meddai.

Ian Price
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i bobl "ddangos mwy o amynedd ar yr heolydd" meddai Ian Price

Wrth i reolau coronafeirws lacio ymhellach yng Nghymru, mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud bod traffig yn cynyddu yn yr ardal.

"Y pryderon sydd 'da ni yw bod traffig wedi cynyddu yn y misoedd diwethaf ers i fesurau lockdown ddod i ben", meddai'r Rhingyll Ian Price o'r Bartneriaeth Lleihau Damweiniau.

"Mae twristiaeth yn cynyddu yn ein hardal ni. Mae traffig yn cynyddu ar yr heolydd - peiriannau ffermwyr, a phobl yn seiclo.

"Falle bod nhw ddim yn gyfarwydd â'r teip yna o draffig. Mae traffig yn achosi pobl i gael llai o amynedd, ac mae pethau gwael yn digwydd oherwydd hynny."

Ychwanegodd: "Beth hoffwn ni weld yw pobl yn cymryd amser. Mae pobl yn gorfod dangos mwy o amynedd ar yr heolydd."

Mae aelod lleol o'r Senedd wedi disgrifio'r A40 rhwng Caerfyrddin a Sanclêr fel "un o'r ffyrdd mwyaf peryglus yng Nghymru".

Mae'r ffordd ddeuol yn ddolen gyswllt bwysig i dwristiaid sydd yn teithio i Sir Benfro, ond mae hefyd yn heol bwysig i draffig amaethyddol yr adeg yma o'r flwyddyn.

Tractor A40
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r A40 yn ffordd bwysig i gerbydau amaethyddol

Yn ôl Cefin Campbell, aelod Plaid Cymru dros Orllewin Cymru a De Penfro, mae ystadegau yn dangos bod yna 359 o ddamweiniau wedi bod ar y rhan yma o'r A40 rhwng Ionawr 2010 ac Awst 2019.

Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwelliannau brys oherwydd "peryglon mawr" ar y ffordd.

"Mae angen i'r llywodraeth ymateb ar frys. Mae adolygiad wedi cael ei wneud gan y llywodraeth," meddai.

"Ni eisiau gweld beth yw'r peryglon hynny. Ni'n galw ar y llywodraeth i ryddhau'r adroddiad i weld beth yw ffrwyth yr astudiaeth a beth maen nhw'n bwriadu gwneud i liniaru ar y peryglon ac i leihau'r anafiadau a'r marwolaethau.

"Mae'r Heddlu yn dweud am eu pryder bod mwy o bobl yn defnyddio'r ffordd yma ac eraill ar draws Cymru wrth i fwy o bobl ddod ar wyliau yma. Mae'r lefel traffig yn mynd i fod cymaint uwch dros yr haf."

Casgliadau yn y 'dyfodol agos'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "diogelwch ar y ffyrdd yn fater difrifol".

"Mae astudiaeth ar y gweill sydd yn edrych ar y rhan yma o'r A40, sydd yn ystyried diogelwch a materion eraill.

"Fe fyddwn ni yn ystyried y casgliadau cyn gynted ag y mae'r astudiaeth wedi ei chwblhau."

Mae disgwyl i'r astudiaeth gael ei chyhoeddi yn y "dyfodol agos" yn ôl y llywodraeth.

Pynciau cysylltiedig