Tai gwyliau: 'Llanberis fydd yr Abersoch nesaf'
- Cyhoeddwyd
Er ei fod o'n teimlo'n sicr ei fod yn gwneud y peth iawn er lles ei blant a'r gymuned Gymraeg, mae Jason Jones yn gwingo wrth egluro sut mae'n ceisio osgoi Llanberis rhag troi'n "yr Abersoch nesaf".
Mae'n gweld adlewyrchiad o'i blentyndod ei hun wrth edrych ar ei ddwy ferch fach.
Fel nhw, fe gafodd ei fagu mewn pentref Cymraeg, cyn mynd ymlaen o Ysgol Gynradd Nefyn i Ysgol Uwchradd Botwnnog.
"Roedd lot fawr o ffrindiau fi yn byw yn Abersoch, a swni'n dweud bod 95% o rheiny rŵan dydyn nhw ddim yn byw yn Abersoch achos 'di nhw methu fforddio byw yno," meddai.
"Dwi'n gweld o flaen fy llygaid fy hun, dwi'n gweld Llanberis yn mynd union yr un ffordd ag Abersoch. Rŵan mae'n rhaid i ni roi stop arno fo."
Tai gwyliau ar Airbnb
Mae'n dweud mai'r cynnydd yn nifer y tai gwyliau a phoblogrwydd gwefannau fel Airbnb sy'n rhannol gyfrifol am y sefyllfa.
Nawr mae'r trydanwr yn ceisio gwneud rhywbeth ymarferol am y peth mewn ffordd anarferol - gan fanteisio ar y farchnad tai gwyliau ei hun.
Ddwy flynedd yn ôl fe brynodd o a'i wraig y tŷ drws nesaf i'r tŷ teras maen nhw'n byw ynddo ers 10 mlynedd.
Ei fwriad hirdymor ydy cynnig y lle i'w blant gan ofni y bydd prisiau tu hwnt i'w cyrraedd nhw pan yn oedolion.
Yn y cyfamser, ac yntau newydd ei adnewyddu, mae wedi cytuno i'w logi am rent tymor hir i deulu lleol sydd wedi gorfod symud o'r pentref oherwydd diffyg tai.
Ond yr unig ffordd mae'n gallu fforddio gwneud hynny ydy defnyddio elw o dŷ gwyliau sydd ganddo yn ei bentref genedigol i dalu am rai o gostau'r tŷ rhent.
"Os ti'n gosod fel tŷ gwyliau mae'r incwm sy'n dod i mewn yn treblu os nad mwy dweud gwir ac mae'r tŷ yna yn sybsidisio i alluogi ni i rentu hwn allan i deulu lleol.
"Dwi'm yn prowd am y peth ond dwi'n trio cyfiawnhau'r ffaith dwi'n 'neud o am y rhesymau iawn.
"Be' da ni'n trio neud yn y tymor hir ydi sicrhau dyfodol ein plant yn Llanberis."
Mae'n cydnabod nad pawb sydd hefo'r modd - na'r sgiliau adeiladu - i fedru gwneud hyn, ac mae'n pwysleisio ei fod yn deall y pwysau sydd ar y farchnad dai gan ei fod wedi methu cael tŷ teulu yn Llanberis oherwydd tai gwyliau.
Fe gytunodd ar bris yn ddiweddar ar dŷ teulu, meddai, cyn i'r perchennog gysylltu i ddweud ei fod yn ei werthu i rywun oedd yn fodlon talu £10,000 yn fwy gyda'r bwriad o'i droi yn Airbnb.
"Roeddan ni'n mynd yna efo bwriad o gael tŷ teulu am byth a nhw'n mynd efo'r bwriad o faint o bobl i stwffio fewn i neud pres," meddai Jason Jones.
Nid fo ydy'r unig un o'r pentrefwyr sy'n sôn am gynnydd poblogrwydd Airbnb wrth drafod y farchnad dai.
Mae'r cwmni ar-lein wedi gweld llwyddiant mawr dros y blynyddoedd diwethaf drwy alluogi pobl i rentu pob math o eiddo am wyliau - o garafanau a pods i dai cyfan neu ystafell o fewn tŷ, a hynny am gyfnodau byr.
Mae Louise Price yn ei 30au ac yn byw gyda'i rhieni yn y cartref lle magwyd hi yn Llanberis. Gwarchod plant ydy ei gwaith hi, ac mae hi eisiau aros yn y pentref.
"Dwi'n gweithio 50 awr yr wythnos a dwi methu fforddio tŷ," meddai.
"Dwi wedi gallu safio dipyn o bres am deposit o'r blaen ac wedyn pan ti'n meddwl bod gen ti ddigon mae prisiau'n codi.
"Mae o wedi gwaethygu ers lockdown. Dwi'n gwybod am dri tŷ yn ddiweddar sydd wedi mynd yn Airbnb.
"Mae 'di mynd rŵan does 'na ddim tai i rentu yn Llanberis chwaith.
"Yn y dyfodol, os oes unrhyw dŷ yn cael ei brynu yn bwrpasol i fod yn Airbnb ddyla fo fynd trwy planning fel bod dim gormod ohonyn nhw mewn un pentref.
"Dwi'n gwybod bod pawb eisiau gwneud bywoliaeth ond pan ti'n desperate am le mae'r sefyllfa yn anodd. Balans sydd angen."
Mae'n gallu bod yn anodd cael ffigyrau pendant am dai gwyliau, yn enwedig ar blatfformau fel Airbnb a Vrbo, gan fod tai cyfan ac ystafelloedd unigol yn y tai rheiny yn gallu cael eu hysbysebu ar yr un pryd.
Yn ôl ffigyrau AirDNA, sy'n arbenigo mewn creu adroddiadau i farchnad Airbnb a Vrbo, mae niferoedd y llefydd ar gael yng Ngwynedd wedi dyblu ar y gwefannau rhwng 2018 a 2021. Mae cwmni Airbnb, sy'n cydnabod bod twf wedi bod, yn anghytuno gyda'r ystadegau ond yn gwrthod rhannu eu ffigurau nhw.
Yn ôl adroddiad llynedd gan Gyngor Gwynedd mae tua 6% o dai Llanberis yn dai gwyliau, dros ddwbl y cyfartaledd cenedlaethol, ond llai na'r 10% ar draws y sir.
Barn perchennog Airbnb
Mae rhai o'r farn bod y pwyslais ar beidio mynd dramor a gweithio o gartref yn sgil y pandemig wedi cynyddu'r galw am dai mewn ardaloedd cefn gwlad yn gyffredinol.
Dyna brofiad Karen McPoland, o Lannau Mersi, sydd gydag ail gartref yn Llanberis mae hi'n ei hysbysebu ar Airbnb, ac yn chwilio am un arall.
Meddai: "Mae'n anhygoel a dweud y gwir - dwi'n gweld gwahaniaeth ers tua 12 mis. Mae tai oedd yn mynd am £145-£150,000 yn 2018 rŵan ar werth am £180,000 - dwn i'm sut mae pobl leol yn gallu fforddio nhw.
"Ryda ni rŵan yn edrych nid yn unig ar Lanberis, ond llefydd tu allan fel Penisa'r-waun, Cwm-y-glo, Clwt-y-bont, a llefydd o gwmpas yr ardal."
Ond dydy hi ddim yn meddwl mai targedu pobl fel hi ydy'r ateb.
"Dwi'n deall y broblem ond os ydi twristiaeth yn mynd fydd y gwaith yn mynd," meddai.
"Dwi'n talu £14 yr awr i rywun lleol i lanhau'r tŷ, dwi'n defnyddio'r lle golchi yn Llanberis i lanhau dillad, ac yn annog gwesteion i fynd i'r tai bwyta lleol.
"Mae angen i'r llywodraeth fuddsoddi mewn diwydiant i greu gwaith fel bod pobl leol yn gallu fforddio tai."
'Twristiaeth yn bwysig'
Dyna farn Iona Roberts hefyd, sydd hefyd yn berchen ar Airbnb yn Llanberis.
Mae hi'n byw yn Y Felinheli gyda'i gŵr, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, ac yn dweud eu bod nhw'n dod â budd i'r economi ac i gymdeithas yn ehangach.
"Mae llefydd gwyliau yn help i wneud yn siŵr bod llefydd prydferth fel Eryri ar gael i bobl sydd wedi gweithio'n galed drwy'r flwyddyn, yn enwedig yn ddiweddar yn ystod y pandemig," meddai Iona Roberts.
"Mi ryda ni'n aml yn cael ceisiadau gan weithwyr GIG, yr heddlu a nifer o weithwyr allweddol eraill. Mae'r bobl yma yn haeddu cael mwynhau Eryri."
Cydbwysedd sydd ei angen, medd eraill.
Mae Heather Jones yn frodor o Lanberis ac wedi magu ei phlentyn ei hun yno. Mae hi'n meddwl bod prisiau tai rhy uchel yn anfoesol ond yn dweud ei bod hi'n rhy syml i feio twristiaeth.
"Roedd Dad yn gweithio yn y chwarel tan iddo gau yn '69 - ond does gen ti ddim chwarel ddim mwy, a does dim diwydiant fel o'r blaen fel yn Peblig a Ferodo. Yr unig beth sydd ganddo ni allwn ni gymryd mantais ohono ydi twristiaeth, sydd byth yn mynd i farw.
"Ond ella ei fod yn amser i reoli fo a chyd-fyw efo fo. 'Da ni angen cydbwysedd."
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
BLOG VAUGHAN RODERICK: Cic o'r smotyn
'Angen rheolau cynllunio'
A'r ateb hwnnw ydy rheolau cynllunio yn ôl Robert Holding, sy'n 27 oed, ac yn byw gartref.
Fel gweithiwr siop leol mae o'n gweld pwysigrwydd twristiaeth i'r pentref, ond dydy o ddim yn meddwl bod Llanberis o dan yr un pwysau ag ardaloedd Pen Llŷn gan fod mynyddoedd yn llai deniadol na'r traeth i'r rhan fwyaf o bobl.
Mae o'n credu bod angen i'r gyfraith ddal i fyny efo gwefannau fel Airbnb sydd wedi datblygu mor sydyn a newid y farchnad.
Ar hyn o bryd dydy nifer o lefydd gwyliau ar wefannau fel Airbnb ddim angen caniatâd cynllunio yn awtomatig - dim ond os ydy'r ffordd mae'r eiddo'n cael ei ddefnyddio yn newid digon i gyfiawnhau gorchymyn newid defnydd.
Dywedodd Robert Holding: "Dwi'm yn meddwl byddai siop ar y stryd fawr yn gallu cael ei werthu fel cartref, ond mae cartrefi yn cael eu prynu fel busnesi rŵan gan mai'r prif reswm dros brynu rhai ydi eu rhoi ar Airbnb - felly dwi'n meddwl bod angen gwneud rhywbeth efo hynny.
"Mae nifer yn troi o i fusnes ond dim dyna ydi pwrpas yr adeilad."
Yn ôl Airbnb, mae'r rhan fwyaf o bobl ar eu gwefan yn rhentu gofod yn eu cartrefi nhw eu hunain a'r incwm ychwanegol yn andros o bwysig iddyn nhw.
Mae'r cwmni yn dweud eu bod yn ystyried o ddifrif y pryderon am y sefyllfa dai ac wedi galw am system gofrestru ar draws Prydain ar gyfer pobl sy'n gosod eiddo neu ystafell ar eu gwefan.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni nad oedden nhw wedi gweld cynnydd mewn eiddo ar eu gwefan ers y pandemig: "Fel mae arbenigwyr wedi nodi, mae'r pandemig wedi cynyddu'n sylweddol y galw am eiddo cefn gwlad ac mae'n gamarweiniol i ddweud bod cynnydd mewn ail gartrefi yn cael ei greu gan Airbnb."
Etholiad 2021: Ymateb y pleidiau
Y Ceidwadwyr Cymreig
"Mae mwy o dai gwag yng Nghymru nag ail gartrefi, a dyna'r argyfwng go iawn gyda'r cyflenwad tai yng Nghymru.
"Bydd taclo'r mater yma yn flaenoriaeth, a dyna pam byddwn ni'n ehangu'r Hawl i Brynu i gynnwys eiddo sydd angen eu hadnewyddu, yn ogystal â chael gwared ar dreth stamp i brynwyr cyntaf er mwyn galluogi mwy o bobl yng Nghymru i fod yn berchen ar dŷ eu hunain."
Plaid Cymru
"Am gyfnod rhy hir, mae diddordeb allanol wedi manteisio ar Gymru - y math o dwristiaeth echdynnol sy'n defnyddio Cymru fel adnodd. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn annog mentrau twristiaeth sy'n sicrhau'r budd mwyaf i gymunedau lleol.
"Byddwn yn cefnogi'r gwaith o greu dewisiadau amgen i lwyfannau'r sector preifat fel Airbnb, dan berchnogaeth leol a pherchnogaeth y cyhoedd.
"Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cau'r bwlch yn y gyfraith sy'n caniatáu i berchnogion ail gartrefi gofrestru eu heiddo fel 'busnes' er mwyn osgoi talu'r premiwm treth gyngor."
Llafur Cymru
"Yn yr etholiad yma, mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i symud Cymru ymlaen a gwneud yn siŵr bod pawb yn ein cymunedau yn cael y tai lleol o ansawdd da maen nhw eu hangen ac yn eu haeddu.
"Dros y bum mlynedd ddiweddaf, rydym wedi buddsoddi £2bn mewn tai ac yn y tymor nesaf byddwn yn mynd ymhellach ac yn adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol newydd, carbon isel.
"Byddwn yn cadw'r cynnydd o 1% yn y Dreth Trafodiadau Tir ar bryniannau ail gartrefi ac yn gweithio gyda chymunedau i ddod o hyd i fesurau eraill mewn cynllunio a threthiant - all gynnwys gyfraddau lleol o'r Dreth Trafodiadau Tir - i warchod buddiannau pobl leol.
"Yn yr etholiad yma, mae Llafur Cymru wedi ymrwymo i symud Cymru ymlaen a gwneud yn siŵr bod pawb yn ein cymunedau yn cael y tai lleol o ansawdd da maen nhw eu hangen ac yn eu haeddu."
Y Democratiaid Rhyddfrydol
"Fe fyddwn ni'n mynd i'r afael â pherchnogaeth ail gartrefi. Mae nifer o bobl yng nghymunedau cefn gwlad wedi cael eu prisio allan neu does dim llawer o dai ar gael.
"Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth fyddai'n gofyn i awdurdodau lleol osod y dreth cyngor ar y lefel uchaf posib i bob un annedd heblaw am brif gartref rhywun.
"Byddwn yn cau'r bwlch sy'n galluogi pobl i ddynodi eu heiddo ychwanegol fel busnesau.
"Mae angen i gymunedau fedru dod o hyd i gydbwysedd er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl leol yn gallu fforddio byw a bod llety yn gallu cael ei ddarparu i dwristiaid ac ymwelwyr fydd wrth gwrs yn dod ag incwm sydd wir ei angen ar gymunedau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru."
Ar gyfer y bleidlais ranbarthol, cliciwch ar eich rhanbarth i weld pwy sydd ar y rhestr i'r holl bleidiau.