Pontyclun: Chwech yn yr ysbyty ar ôl i gar daro tafarn

  • Cyhoeddwyd
WindsorFfynhonnell y llun, Kaitlin Moore

Mae chwech o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl i gar daro tafarn yn Rhondda Cynon Taf.

Mae un cerddwr wedi dioddef anafiadau difrifol ar ôl y gwrthdrawiad y tu allan i'r Windsor ym Mhontyclun tua 20:30 nos Iau.

Y gred, meddai Heddlu De Cymru, yw bod dyn 79 oed wedi dioddef "episod feddygol" wrth yr olwyn cyn i'w Ford Puma arian daro'r bobl a'r dafarn.

Dywedodd swyddogion fod gyrrwr y car mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty.

Cafodd pedwar person arall hefyd eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd fel rhagofal gyda mân anafiadau.

Cadarnhaodd yr heddlu taw tri pherson oedd yn dal yn yr ysbyty erbyn diwedd prynhawn Gwener.

Mae'r heddlu wedi lansio ymchwiliad i achos y "digwyddiad trallodus iawn" ar Ffordd Llantrisant, tua 15 milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r Windsor, Pontyclun ychydig cyn 20:30 ddydd Iau

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Dywedodd rheolwr y dafarn, Tia Lewis, wrth BBC Cymru: "Daeth car oddi ar y ffordd a tharo pobl oedd yn eistedd yn yr ardd gwrw.

"Fe darodd y car wal y dafarn hefyd. Roedd yn frawychus iawn, allwn ni ddim ei gredu. Rwy'n gobeithio bod y bobl sydd wedi'u brifo yn iawn.

"Roedd y dafarn yn eithaf prysur ac oherwydd y tywydd braf roedd yn amlwg bod pobl yn eistedd y tu allan."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dydd Iau yn un o ddiwrnodau cynhesaf y flwyddyn

Dywedodd yr Arolygydd James Ratti o Heddlu De Cymru: "Roedd y gwasanaethau brys yn wynebu golygfa a oedd yn cynnwys nifer o bobl wedi'u hanafu.

"Fe wnaethon ni weithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn y gwasanaethau ambiwlans a thân i ddelio â'r bobl hynny mor gyflym ac effeithlon â phosib.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad trallodus iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r aelodau o'r cyhoedd a ddaeth i gynorthwyo'r bobl a anafwyd yn yr eiliadau yn syth ar ôl y gwrthdrawiad."

Mae ymchwiliad i'r gwrthdrawiad bellach wedi'i lansio, ychwanegodd yr heddlu.

'Wedi bod yn ffodus iawn'

Roedd Kaitlin Moore yn sefyll gyferbyn y dafarn pan glywodd "lot o wydr yn torri".

"Roedd hi'n llanast, a digwyddodd popeth mor sydyn, dwi'n meddwl bod pawb mewn sioc", meddai.

"O'n i'n gallu gweld pobl yn gorwedd ar y llawr. Ro'dd pobl i fyny grisie yn y dafarn yn taflu blancedi lawr atyn nhw."

Dywedodd ei bod yn aml yn sefyll ger y dafarn wrth aros am lifft adref o'i gwaith.

"Digwydd bod neithiwr o'n i'n aros wrth y siop trin gwallt. Dwi'n teimlo mod i wedi bod yn ffodus iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ardal bellach wedi ailagor i'r cyhoedd

Roedd o leiaf bump ambiwlans, sawl car heddlu a phedwar cerbyd gwasanaeth tân yn y digwyddiad.

Roedd yr heddlu wedi cau yr ardal o amgylch y dafarn yng nghanol y pentref am gyfnod, ond mae'r A4222 bellach ar agor.

Dywedodd cynghorydd lleol Pontyclun, Margaret Griffiths, fod yr ardal mewn "sioc".

"Roedd yn ddigwyddiad distressing iawn," meddai wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Mae'r cymdogion yn iawn. Doedd pobl ddim yn [disgwyl] rhywbeth fel 'na i ddigwydd pan yn eistedd neu'n sefyll tu allan i'r dafarn yn cael cwrw dros nos hyfryd, so [mae'n] sioc iawn i bobl yn yr ardal."