'Hawl i bawb' fod yn eu cymuned ar ddiwedd oes
- Cyhoeddwyd
Mae pobl Bro Ffestiniog yn dweud bod angen gwneud mwy i sicrhau y gofal gorau posib i bobl yn eu cymuned ar ddiwedd eu bywydau.
Fe fu ymgyrch fawr yn ardal Blaenau Ffestiniog i achub yr ysbyty yn y dref - fu'n trin cleifion am 87 o flynyddoedd.
Ond fe gafodd y cleifion olaf a'r offer eu symud oddi yno yn 2013. Ar y pryd roedd protestwyr yn poeni am drefniadau ar gyfer gofal diwedd oes yn lleol.
Ers hynny mae Hosbis Dewi Sant wedi bod yn darparu gofal ar gyfer cleifion yn eu cartrefi, a chefnogaeth i deuluoedd, gyda help arian sy'n cael ei gasglu yn lleol.
Ond mae ymgyrchwyr yn dweud bod angen mynd ymhellach, a sefydlu hosbis - sydd â gwelyau ar gyfer cleifion lle nad yw gofal yn y cartref yn bosib - ar safle pwrpasol ym Mro Ffestiniog.
Ar hyn o bryd, gofal yn y cartref sydd ar gael i bobl yr ardal tua diwedd eu hoes, neu wynebu siwrne o tua awr i'r hosbis agosaf - sy'n rhy bell meddai sawl un yn lleol.
Mae Gwenlli Evans yn aelod o bwyllgor coeden goffa Bro Ffestiniog: "Dwi'n meddwl bo' hi yn andros o bwysig i bobl allu bod yn y gymuned ar gyfer gofal diwedd oes.
"'Da ni wedi colli gwelyau yn yr ysbyty ac roedd pobl a'r cymuned yn gweld angen a dyna pam ddaetho' ni at ein gilydd ar gyfer y goeden goffa.
"Mae siwrne i hosbis o fan hyn yn bell, mae gan bawb hawl a pharch i fod yn eu cymunedau ar ddiwedd oes.
"Mae'n ddigon upsetting fel ag y mae heb orfod meddwl am drafeilio ar ben hynny."
Er mwyn cefnogi gofal o fewn y cartref ar hyn o bryd, mae pobl leol wedi dechrau ymgyrch i gasglu arian.
Mae coeden goffa yn cael ei goleuo ar y sgwâr ym Mlaenau Ffestiniog, gyda'r nod o gofio am anwyliaid neu ddathlu achlysur arbennig.
Mae pobl leol yn cyfrannu arian i gofio am eu hanwyliaid, gyda'u henwau yn mynd i lyfr coffa y goeden goffa.
Llynedd bu'n rhaid cynnal seremoni rithiol i oleuo'r goeden ym mis Tachwedd oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws.
Ond eleni mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd modd i'r cyhoedd ymgasglu ar gyfer yr achlysur.
Mae codi arian yn lleol wedi bod yn sialens oherwydd y pandemig, yn ôl y cynghorydd Annwen Daniels, cadeirydd y pwyllgor: "Mae wedi bod yn galed iawn tro 'ma.
"Gatho' ni ddim llawer o bres eleni oherwydd y cyfnod clo a Covid. Ond, mae gyda ni £5,350 i roi i'r hosbis cyn diwedd y mis a gobeithio bydd y flwyddyn nesa' yn well a byddwn ni gallu gneud mwy i hel pres. Felly ymdrech fawr i ddod."
Wrth alw am "ofal diwedd oes yn lleol yma yn Blaenau", dywedodd ei fod yn "bryderus iawn" bod pobl yn gorfod teithio mor bell ar hyn o bryd.
"Mae popeth mor bell oddi wrth Blaenau dydy, 'da chi'n gorfod mynd i Landudno neu Alltwen ydy'r ysbyty agosa' a mae honno 14 milltir i ffwrdd, ac i bobl o'u hoed a'u hamser heb geir a sy'n gorfod trafeilio ar fysiau... sut maen nhw'n ymdopi 'efo hynny?"
'Ceisio gwella y sefyllfa'
Dywedodd llefarydd ar ran hosbis Dewi Sant ei bod yn "parhau i edrych ar gyfleon i wella y gwasanaeth i bobl ar hyd a lled Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy".
"Rydyn ni'n sylweddoli bod yna fylchau mewn rhai ardaloedd o Wynedd ac rydym yn hapus i gyd weithio a'r bwrdd iechyd lleol a meddygon teulu yn yr ardal i geisio gwella y sefyllfa."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2021