Golygu lluniau'n 'achosi problemau iechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Golygu lluniau'n 'niweidiol' i iechyd meddwl

Gwefusau mwy, trwyn syth, croen cliriach... Mae nifer yn golygu eu lluniau cyn postio nhw ar-lein.

Ond pa mor niweidiol ydy hyn i'n hiechyd meddwl?

Dywed un seicolegydd y gall golygu lluniau ohonoch eich hun arwain at fwy o bobl yn datblygu anhwylderau fel dismorffia'r corff (BDD).

Mae menyw o Abertawe wedi dechrau deiseb sy'n galw ar Lywodraeth y DU i orfodi hysbysebion i nodi pan mae wyneb neu gorff person wedi cael ei newid neu ei olygu.

Yn ôl gwaith ymchwil, dolen allanol, mae dros 55% o bobl yn dymuno cael triniaeth blastig er mwyn edrych mwy fel eu selfies.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod am gyflwyno "cyfreithiau newydd llym" a fydd yn amddiffyn pobl rhag unrhyw gynnwys a allai "gael dylanwad niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol".

Mae arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl, dolen allanol yn nodi bod lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn achosi poen meddwl i 40% o bobl ifanc.

Yn ôl Dr Nia Williams, seicolegydd a darlithydd ym Mhrifysgol Bangor, mae yna "sawl peth sy'n rhyngweithio hefo'i gilydd" er mwyn effeithio ar hunan-ddelwedd a hunan-hyder person.

"Ond wrth gwrs, mae gwefannau cymdeithasol yn chwarae rôl. Maen nhw'n annog pobl i ganolbwyntio ar fod yn berffaith," meddai.

"Dydy hyn ddim yn beth newydd... ond beth sydd yn newydd rŵan ydy bod yr apiau 'ma'n caniatáu i bobl newid, neu 'wella' sut maen nhw'n edrych wrth addasu'r wyneb.

"Weithiau mae'r addasu'n gwneud i berson deimlo'n dda. Ond lle mae'r broblem wedyn yn cychwyn ydy pan mae rhywun yn edrych ar y llun, ac yna'n edrych i fewn i'r drych, a bo' nhw ddim yn edrych yr un un peth."

Ffynhonnell y llun, Dr Nia Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Nia Williams y gall defnyddio filters ac apiau arwain at gynnydd yn y nifer sy'n dioddef o BDD

Rhybuddiodd Dr Williams fod golygu lluniau a defnydd cyfryngau cymdeithasol yn gallu arwain at anhwylderau fel BDD.

Mae'r anhwylder yn effeithio ar 0.5% o'r boblogaeth, ac yn achosi i berson deimlo'n anhapus am ei gorff - mae hynny yn arwain at obsesiwn am wahanol agweddau o'r corff.

"Os ydyn ni'n gweld mwy o gyfryngau cymdeithasol a'r apiau 'ma... yna'n sicr dwi'n teimlo y byddwn ni'n gweld mwy o'r cyflwr yma," meddai Dr Williams.

'Weithiau ti'n meddwl, oes 'na rhywbeth yn bod gyda fi?'

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Meg bellach yn golygu ei lluniau cyn postio nhw ar-lein

Mae Meg, 25 oed o Wynedd, wedi byw gyda BDD ers iddi fod yn ifanc.

Yn ei harddegau fe ddechreuodd ddefnyddio filters ar luniau o'i hun cyn postio nhw ar-lein.

"'Swn i'n iwsio filters lot pan o'n i'n tynnu selfies, ac wedyn pan o'n i'n sbïo yn y mirror, neu o'dd rywun yn tynnu llun ohona'i hefo jyst camera ffôn, 'swn i'n teimlo'n rili confused a depressed," meddai.

"'Swn i'n meddwl, 'Wel lle mae'r croen perffaith yma 'di mynd? Lle mae'r dannedd sparkly white 'di mynd? Pam ydw i hefo spots? Pam ydw i hefo texture ar fy nghroen i? Pam ydw i'n edrych fel hyn? A pham bod influencers a phobl ar Instagram a phobl famous yn edrych mor berffaith?'"

Dywedodd Instagram ei fod yn gwahardd defnydd effeithiau fel filters sy'n hyrwyddo'n uniongyrchol cael triniaethau plastig, a'i fod yn "adolygu ein polisïau'n gyson i sicrhau diogelwch y gymuned."

Galw am fwy o reoliadau

Mae effaith golygu lluniau wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar wedi i lywodraeth Norwy gyhoeddi y bydd rhaid dweud os ydy rhywun yn newid neu olygu lluniau cyn eu postio ar-lein.

Mae Lara Philippart o Abertawe wedi dechrau deiseb sy'n galw ar Lywodraeth y DU i orfodi hysbysebion i nodi pan mae wyneb neu gorff person wedi cael ei newid neu ei olygu.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lara Philippart wedi cychwyn deiseb sy'n galw am fwy o reoliadau ar luniau sydd wedi cael eu golygu

Dywedodd Lara, 24, sy'n astudio gradd meistr mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Abertawe: "Os ydych chi'n gallu cael hysbysebion, falle pobl enwog hefyd, i ddechrau datgan pan mae eu lluniau wedi cael eu golygu'n ddigidol, fi'n credu byddai'n cynyddu ymwybyddiaeth pobl.

"Felly'n hytrach nag edrych trwy luniau yn meddwl, 'O mae'r person yna'n edrych mor denau, mor rhyfeddol', o leiaf mae fel, 'O, dyw hwn ddim yn wir'.

"O leiaf mae eich ymennydd yn ymwybodol wedyn bod beth rydych chi'n gweld ddim yn wir. Felly dyna'r bwriad - i dorri'r safonau prydferthwch sydd ddim hyd yn oed yn gyraeddadwy.

"Gyda fy neiseb, teimlaf ei fod yn bwynt cychwyn tuag at wireddu hyn."

Mae Meg hefyd yn cefnogi'r ddeiseb.

"I fi mae o mor bwysig i declaro bod ti 'di defnyddio filters," meddai.

"Dwi'n completely cefnogi'r petition. Dwi'n gobeithio neith o helpu iechyd meddwl pobl, achos ar ôl sbïo ar y lluniau neith nhw hopefully ddarllen, 'Okay, mae hwn 'di cael ei editio, dydy hwn ddim yn sut mae pobl yn edrych yn real life', a gobeithio neith o helpu self-esteem nhw achos ma' beauty standards dyddiau yma yn way off, a dwi'n meddwl mae o'n syniad da i newid y gyfraith yn fan hyn."

'Gweithredu cyfreithiau newydd llym'

Dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn mynd i weithredu "cyfreithiau newydd llym gan sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn amddiffyn eu defnyddwyr".

Bydd y cyfreithiau yn amddiffyn pobl rhag unrhyw gynnwys a fyddai'n gallu "cael dylanwad niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol".

Gall cwmnïau sy'n methu â chyflawni'r gofynion wynebu dirwyon enfawr ac mewn rhai achosion bydd eu gwefannau yn cael eu dileu, meddai'r llywodraeth.

Ychwanegodd llefarydd: "Fel rhan o'n Rhaglen Hysbysebu Ar-lein, byddwn hefyd yn ystyried hysbysebion sy'n gwasgaru cynnwys niweidiol."