Rheolwr Cymru Ryan Giggs yn ymddangos yn Llys y Goron

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Ryan Giggs yn Llys y Goron ym Manceinion ddydd Gwener

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru a chyn-bêl-droediwr Manchester United, Ryan Giggs wedi ymddangos yn Llys y Goron wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol, ymosod ac ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli drwy orfodaeth.

Clywodd y llys yr honiad bod Giggs wedi cicio'i gyn-gariad yn ei chefn a'i thaflu hi allan yn noeth o'u hystafell wely mewn gwesty.

Mae'r cyhuddiad yn rhan o batrwm o ymddygiad rheolaethol honedig yn erbyn Kate Greville, 36, rhwng Awst 2017 a Thachwedd 2020.

Ddydd Gwener, ymddangosodd Giggs yn Llys y Goron Manceinion ble plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiadau.

Gwadodd ail gyhuddiad o ymosod ar Ms Greville ac achosi niwed corfforol yn ei gartref yn Worsley, Manceinion, ar 1 Tachwedd y llynedd.

Plediodd Giggs hefyd yn ddieuog i'r cyhuddiad ei fod wedi ymosod ar chwaer iau Ms Greville, Emma Greville, yn ystod yr un digwyddiad ar 1 Tachwedd.

Cafodd manylion o'i ymddygiad rheolaethol eu darllen allan yn y llys.

Mae'r manylion yn cynnwys anfon negeseuon; bygwth i anfon e-byst i ffrindiau a chydweithwyr; taflu eiddo allan o'r tŷ; ; anfon negeseuon a gwneud galwadau na ddymunwyd; mynd yn ddi-wahoddiad i'w thŷ, ei gweithle a'i champfa yn aml ar ôl i'r berthynas ddod i ben.

Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar 8 Hydref, ac mae disgwyl i'r achos llawn yn erbyn Ryan Giggs ddechrau yn Ionawr 2022.