Rhybudd melyn am stormydd i'r rhan fwyaf o Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau i'r rhan fwyaf o Gymru.
Bydd y rhybudd mewn grym am 09:00 ddydd Mawrth ac yn parhau tan 06:00 fore Mercher.
Mae posibilrwydd o 20-30mm o law mewn un neu ddwy awr, ac mewn rhai llefydd, bydd hyd at 60mm o fewn tair i chwe awr.
Mae disgwyl y bydd mellt a chenllysg hefyd yn achosi peryglon ychwanegol mewn rhai rhannau o'r wlad.
Bydd y rhybudd mewn grym yn y siroedd canlynol:
Sir Gâr
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Sir Benfro
Powys
Wrecsam
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2021