Rhybudd y gallai'r tymheredd godi eto i 32C yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth yw'r peryglon o losgi'ch croen yn yr haul tanbaid?

Fe allai'r tymheredd yng Nghymru gyrraedd ei lefel uchaf eleni yn ddiweddarach wrth i'r tywydd poeth barhau am y chweched diwrnod yn olynol.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tymheredd daro 32C ddydd Mercher.

Hyd yn hyn y diwrnod poethaf oedd dydd Llun, gyda Chaerdydd yn cyrraedd 30.9C.

Ond mae rhybudd y gallai glaw trwm a stormydd mellt a tharanau achosi trafferthion mewn rhai mannau dros y penwythnos.

Mewn rhybudd melyn a gyhoeddwyd ddydd Mercher, dywedodd y Swyddfa Dywydd bod posibilrwydd y gall glaw trwm, a chawodydd taranllyd achosi llifogydd neu drafferthion eraill dros y penwythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y tymheredd gyrraedd bron 40C yn ôl y thermomedr yma mewn gardd yng Nghaerdydd

Daeth rhybudd oren y Swyddfa Dywydd am wres eithafol - yr un cyntaf yn y DU - i rym am 16:05 ddydd Llun a bydd yn weithredol hyd at 23:59 nos Iau.

Mae'r rhybudd yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r canolbarth a de Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd bod y "tymheredd yn debygol o fod yn debyg i'r dyddiau diwethaf, efallai'n boethach", gydag "uchafbwyntiau o 31 neu 32 gradd selsiws yn debygol tuag at dde a dwyrain Cymru, ond bydd y gwres yn eang".

Newid dros y penwythnos

Ond mae disgwyl tywydd ansefydlog dros rannau helaeth o Gymru a de Lloegr wrth i'r glaw ledaenu o'r de-orllewin nos Wener.

"Mae'n debygol y bydd cawodydd trwm, taranllyd yn cyrraedd yn ystod y dydd, yn enwedig ddydd Sul pryd y gallent fod dros ardal eang ac yn drwm iawn," meddai'r rhybudd.

"Mae disgwyl mellt a chenllysg hefyd. Bydd lefel y glaw yn amrywio o le i le, ond mae posibilrwydd o hyd at 100mm mewn rhai ardaloedd dros y penwythnos, a gallai llawer ohono ddisgyn mewn cyfnod byr."

Daw wrth i filiynau o bobl aros yn y DU i fynd ar eu gwyliau, gyda llai yn teithio dramor oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.

Mae Traffig RAC wedi rhybuddio y gallai dydd Mercher fod y diwrnod prysuraf ar ffyrdd y DU gyda 2.6m o deithiau hamdden a 2.3m ddydd Gwener.

Mae arbenigwyr data traffig Inrix wedi rhybuddio y gallai oedi ar y ffordd fod hyd at draean yn hirach na thraffig arferol mis Gorffennaf.

Mae disgwyl i Gymru hefyd fod yn un o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y DU gydag arolwg RAC yn awgrymu bod 11% o bobl yn dod i Gymru ar wyliau.

Disgrifiad,

Beth all bobl wneud i gadw'n ddiogel yn y gwres?

Dywedodd y meddyg teulu Dr Rhian Williams bod angen defnyddio "bach o synnwyr cyffredin" wrth ddelio gyda'r gwres llethol.

"Y peth pwysig yw osgoi aros mas o dan olau'r haul am gyfnod o fwy na falle 20 munud," meddai.

"Yn ogystal, os bo' ni mas yn yr haul, i ddefnyddio eli haul, neu gysgod neu het yn ddigon aml.

"Mae angen i ni fod yn yfed o leiaf tri litr o ddŵr, ac yn 'neud yn siŵr bod 'da ni ddŵr ar bwys y gwely, a falle ffan i neud yn siŵr bod ni'n cadw'r tymheredd lawr."

Pynciau cysylltiedig