Sgwâr Canolog y BBC yw cartref yr Orsedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Sgwar Canolog y BBC yng Nghaerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd prif seremonïau'r ŵyl yn dod yn fyw o bencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi mai Sgwâr Canolog, Caerdydd fydd cartref yr Orsedd ar gyfer Eisteddfod AmGen 2021.

Mae'r Eisteddfod AmGen yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol, BBC Cymru ac S4C, a bydd prif seremonïau'r ŵyl yn dod yn fyw o bencadlys BBC Cymru yng nghanol y brifddinas yr wythnos nesaf.

Bydd dirprwyaeth o'r Orsedd, o dan arweiniad yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, yn cynnal y seremonïau ar y nos Fercher, Iau a Gwener yng nghystadlaethau'r Goron, y Fedal Ryddiaith a'r Gadair.

Am y tro cyntaf, fe fydd y seremonïau yn cael eu cynnal gyda'r nos gan ddechrau am 20:00. Bydd modd gwylio'r seremonïau yn fyw ar S4C bob noson a'u clywed ar BBC Radio Cymru.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau BBC Cymru: "Pan agorwyd drysau pencadlys newydd BBC Cymru yng Nghaerdydd y llynedd fe wnaethom ymrwymiad y byddem yn sicrhau fod y Gymraeg wrth galon ein gweithgareddau, yn ogystal â'n darllediadau yn y ganolfan yn Sgwâr Canolog.

"Rydw i wrth fy modd felly yn croesawu'r Eisteddfod, yr Orsedd a chynulleidfaoedd rhaglenni'r Eisteddfod i'r adeilad, gan ganiatáu i'n beirdd a'n llenorion gael eu hanrhydeddu gerbron y genedl."

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd

Ychwanegodd Myrddin ap Dafydd: "Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cynnig cyfle i ddoniau llenyddol ac yna'n dathlu - gobeithio - eu llwyddiant a'u creadigrwydd eleni.

"Rydw i'n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau a'r paratoi dros y misoedd diwethaf sy'n golygu ein bod ni'n gallu cynnal seremonïau anrhydeddus a lliwgar.

"Fe fydd y profiad ychydig yn wahanol i'r arfer, ond yr un fydd y gamp o gyrraedd y brig yn yr Eisteddfod a'n bwriad a'n dyletswydd yw ceisio gwneud y profiad hwnnw mor arbennig a chofiadwy ag erioed."

Fe fydd y canlyniadau llawn ar gael ar wefan ac ap BBC Cymru Fyw.

  • Dydd Llun 2 Awst, 20:00 - Seremoni'r Fedal Ddrama

  • Dydd Mawrth 3 Awst, 20:00 - Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen

  • Dydd Mercher 4 Awst, 20:00 - Seremoni'r Coroni'r Bardd

  • Dydd Iau 5 Awst, 20:00 - Seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaith

  • Dydd Gwener 6 Awst, 20:00 - Seremoni'r Cadeirio