Dadorchuddio cadair a choron yr Eisteddfod Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tony ThomasFfynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tony Thomas greu'r gadair a'r goron mewn ychydig wythnosau

Mae prif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi eu dadorchuddio.

Fel arfer mae crefftwyr allanol yn cael eu comisiynu i greu'r gadair a'r goron ar gyfer y prif gystadlaethau llenyddol.

Ond eleni, swyddog technegol yr Eisteddfod, Tony Thomas, sydd wedi cymryd y cyfrifoldeb, gan eu creu yng ngweithdy'r Eisteddfod yn Llanybydder.

Am yr ail flwyddyn fe fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal ar-lein, ar ôl i Eisteddfod Tregaron gael ei gohirio eto.

Mae'r gadair a'r goron wedi eu gwneud o bren eleni, a dywedodd Mr Thomas ei fod yn awyddus i greu cysylltiad rhwng y ddau, gan gymryd ysbrydoliaeth o gerrig yr Orsedd.

"Ro'n i'n teimlo y byddai'n beth braf i'r ddwy wobr berthyn i'w gilydd, gan fod eleni'n Eisteddfod wahanol, a chan fod y ddwy wobr yn cael eu creu gan yr un person," meddai.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod

Mae wedi defnyddio pren onnen ar gyfer y gadair, sy'n cael ei noddi gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan.

"Ro'n i am i'r Gadair gael ei chreu allan o bren golau," meddai. "Mae'n bren cryf iawn ac yn hyblyg hefyd, ac yn berffaith ar gyfer creu Cadair Eisteddfod.

"Ry'n ni wedi bod yn lwcus hefyd i gael y pren yn lleol, ac mae'n braf meddwl bod y Gadair yn cael ei chreu o fewn ychydig filltiroedd i le syrthiodd y coed ychydig flynyddoedd yn ôl.

"Mae llafnau o bren yn codi o amgylch y sedd, yn union fel Cylch yr Orsedd ar Faes yr Eisteddfod.

"Mae elfen arall i'r cynllun hefyd, gyda'r Cerrig hefyd yn cynrychioli llaw, a honno'n cofleidio'r enillydd, wrth iddo fo neu hi gael ei urddo gan yr Archdderwydd, gyda'r syniad o ofalu am ein traddodiadau a'n diwylliant ni'n rhedeg drwy'r cynllun."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod

Mahogani yw'r prif bren yn y goron, gydag elfennau wedi'u creu o dderw Cymreig. Cafodd cap y goron ei greu gan Carole Leigh.

"Yn debyg i'r Gadair, mae'r syniad o Gerrig yr Orsedd i'w weld ar y Goron hefyd, ac eto, mae'r cysyniad o'r llaw yn gafael o amgylch yr enillydd i'w weld yn glir yma," meddai Mr Thomas.

"Mae'r Goron wedi cael ei chreu gyda llaw, ac mae'n braf cael dychwelyd at y ffordd draddodiadol o weithio, a ninnau'n defnyddio cymaint o beiriannau ar gyfer popeth heddiw.

"Mae'n dipyn o her i greu Coron allan o bren. Wrth weithio gyda metel, mae rhywun yn gallu'i ail-siapio fe os yw rhywbeth yn mynd o chwith, ond mae'n rhaid i bopeth fod yn iawn y tro cyntaf wrth weithio gyda phren, neu mae'n rhaid dechrau eto.

"A does dim sgriwiau na hoelion yn agos at y Gadair na'r Goron. Mae popeth yn ffitio gyda'i gilydd yn union fel y dylai fod."

Cafodd Tony Thomas gymorth aelod arall o 'Hogia'r Maes', Nicholas Williams. Mae'r ddau fel arfer yn gweithio ar brosiectau mwy o ran maint, fel y llythrennau sy'n sillafu'r gair 'Eisteddfod' neu'r pyrth haearn ar gyrion y Maes.

"Mae'r ddau ohonon ni wedi gweithio i'r Eisteddfod ers blynyddoedd lawer ac wedi gweld cadeiriau a choronau o bob lliw a llun," meddai Tony Thomas.

"Mae'n anodd credu ein bod ni wedi cael cyfle i greu rhai ein hunain ar gyfer eleni. Mae'n dipyn o beth, ac ry'n ni'n gobeithio y bydd 'na enillwyr i'r ddwy wobr nawr!"

Mae seremoni'r coroni'n cael ei chynnal nos Fercher 4 Awst, a'r seremoni cadeirio ar nos Wener 6 Awst.