Arian i Lauren Williams yn y taekwondo yn Tokyo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lauren WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd y tro cyntaf i Lauren Williams gystadlu yn y Gemau Olympaidd

Lauren Williams ydy'r athletwr cyntaf o Gymru i ennill medal yng Ngemau Olympaidd Tokyo wedi iddi ennill arian yn y taekwondo ddydd Llun.

Cafodd Williams, 22 oed o'r Coed Duon, ei threchu gan Matea Jelić o Groatia yn ffeinal y gystadleuaeth -67kg.

Roedd hi'n ornest agos trwy gydol y chwe munud, gyda Williams ar y blaen o 5-4 wedi'r rownd gyntaf o ddau funud yr un.

10-10 oedd hi cyn y ddau funud olaf, ac er i'r Gymraes adeiladu mantais ar ddechrau'r rownd olaf, daeth Jelić yn ôl i ennill o 25-22 yn yr eiliadau olaf.

Dyma oedd y tro cyntaf i Williams gystadlu yn y Gemau Olympaidd, ac mae hi eisoes yn bencampwr Ewrop ar dri achlysur.

'Dim yn rhy ddrwg nac ydy?'

Yn siarad gyda'r BBC wedi'r ornest dywedodd Williams ei bod yn siomedig am y canlyniad ond ei bod hefyd yn falch gyda medal arian.

Disgrifiad o’r llun,

Teulu Lauren Williams yn dathlu ei llwyddiant yn y Coed Duon

"Dyw e ddim yn ddigon. Roedd gen i hi gyda 10 eiliad i fynd ond nes i adael e fynd - gwneud camgymeriad a gadael e fynd. Arna i mae hynny," meddai.

"Fe es i allan yno i ennill a gwneud fy ngorau ond wnaeth hynny ddim digwydd ar y diwrnod.

"Rwy' dal yn hapus iawn gyda sut wnes i berfformio ond mae'n biti mai hi enillodd.

"Medal arian yn y Gemau Olympaidd - dyw e ddim yn rhy ddrwg nac ydy?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lauren Williams (chwith) ei bod yn hapus gyda medal arian er gwaethaf y siom o golli allan ar aur i Matea Jelić

Yn gynharach ddydd Llun llwyddodd y Gymraes i drechu Malia Maile Pasek o Tonga, Hedaya Wahba o'r Aifft a Ruth Gbagbi o Côte d'Ivoire er mwyn cyrraedd yr ornest am fedal aur.

Daw lwyddiant Williams ddiwrnod wedi i Jade Jones ddioddef sioc gan golli yn rownd gyntaf y gystadleuaeth -57kg a hithau'n ffefryn am aur.

Pynciau cysylltiedig