Covid-19: Cymru yn cofnodi tair marwolaeth yn rhagor
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi tair marwolaeth yn rhagor yn ymwneud â Covid-19 yn y ffigyrau dyddiol diweddaraf.
Cafodd 724 o achosion newydd o coronafeirws eu cofnodi - cwymp arall mewn 24 awr - hyd at 09:00 fore Mercher.
Mae'n golygu mai 240,019 yw cyfanswm yr achosion yng Nghymru ers dechrau'n pandemig a 5,606 yw cyfanswm y marwolaethau, yn ôl dull ICC o gofnodi.
Mae'r gyfradd achosion ar draws Cymru wedi gostwng eto i 155.2 ar gyfer pob 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod.
Siroedd yn y gogledd sy'n parhau â'r cyfraddau uchaf, sef siroedd Ddinbych (406.5), Conwy (324.5), Y Fflint (253.0) a Wrecsam (248.6).
Pedair sir sydd â chyfradd is na 100, sef Blaenau Gwent (80,2), Sir Gaerfyrddin (82.6), Gwynedd (95.5) a Phenfro (97.0).
Pryder bwrdd iechyd
Mae 2,292,572 wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn Covid, gyda 2,036,670 - 80% o holl oedolion Cymru - wedi cael y cwrs llawn o ddau ddos.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe'n rhybuddio bod un o bob pum person dan 40 oed yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot heb eu brechu o gwbl.
O'r 78,000 o oedolion dan 40 yn yr ardal, mae 16,000 heb gael brechiad.
Mae hynny'n "destun pryder", medd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd, Dr Keith Reid, sy'n annog oedolion sy'n gymwys i gael brechiad i fynd am eu dos cyntaf gynted â phosib.
Dywed Dr Reid mai "peryglus" yw credu "mythau ar y cyfyngau cymdeithasol" sy'n arwain rhai pobl "ifanc, iach i gredu bod hi'n well iddyn nhw adael eu system imiwnedd i wrthsefyll y feirws yn naturiol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021