Statws Treftadaeth Byd wedi cael effaith bositif
- Cyhoeddwyd
Mae cael ei rhestru fel safle treftadaeth byd UNESCO wedi cael effaith gadarnhaol ar ardal eang, yn ôl un o'r tîm sy'n gofalu am draphont ddŵr Pontcysyllte.
Mae disgwyl penderfyniad yn fuan iawn ar gais i ychwanegu ardal chwareli llechi Gwynedd at y rhestr.
Cafodd dyfrbont enwog Thomas Telford yn Froncysyllte, ei hychwanegu at restr UNESCO yn 2009, gan ymuno â thua 900 o lefydd ar draws y byd sy'n arddel y teitl - gan gynnwys Côr y Cewri, Wal Fawr China a'r Taj Mahal.
Yn ôl Linda Slater, sy'n un o dîm rheoli'r draphont a'i hatyniadau, roedd derbyn statws UNESCO wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Busnesau wedi agor
"Mae'r rhifau wedi mynd yn wallgof yma ers cael ein hychwanegu at y rhestr - nid yn unig o ran ymwelwyr â'r draphont a'n hatyniadau eraill ar y gamlas, ond hefyd i atyniadau eraill yn yr ardal ac ar y ffordd yma," meddai.
"Efallai nad yw'r ffigyrau aros dros nos wedi cynyddu cymaint â hynny, ond mae 'na fuddsoddiad wedi bod yn y ganolfan ymwelwyr yma, ac mae sawl busnes wedi agor yn sgîl y cyhoeddiad - yn eu plith cwmnïau llogi cychod a chaffi ar y dŵr.
"Mae hyn yn golygu bod swyddi wedi cael eu creu yn yr ardal, ac mae hyn oherwydd effaith bositif statws UNESCO."
Dywedodd bod ymwelwyr o dramor yn cyfaddef mai oherwydd rhestr UNESCO yr oeddynt wedi ymweld â'r ardal yn y lle cyntaf.
Mae safle Pontcysyllte yn cynnwys 11 milltir o gamlesi a strwythurau eraill o oes y chwyldro diwydiannol.
"O edrych o'm cwmpas, mae'r holl safle'n edrych yn well nag yr oedd o ers talwm, ac yn cael ei edrych ar ei ôl yn dda," meddai Linda Slater.
"Rydym yn gallu gwario ar hynny oherwydd bod mwy o bobl yn tyrru yma," meddai.
Gormod o dwristiaeth?
Ond mae un mudiad arall yn bryderus y gallai'r dynodiad gan UNESCO waethygu problem yng Ngwynedd o "ormod o dwristiaeth".
Fe wnaeth adroddiad gan Gyngor Gwynedd ym mis Chwefror rybuddio am "or-ddibyniaeth" ar swyddi gyda chyflogau isel yn y diwydiant o gymharu â diwydiannau eraill a rhannau eraill o'r DU, ac roedd yna bryder na all y sir ymdopi gyda niferoedd "anghynaliadwy" o ymwelwyr mewn rhai mannau penodol.
Mewn datganiad dywedodd Cylch yr Iaith: "Beth bynnag fo gobaith y cyngor sir, rhaid cydnabod yn onest y byddai ennill statws Safle Treftadaeth y Byd yn cynyddu twristiaeth i'r ardaloedd dan sylw.
"Ac o ran y bwriad i 'sbarduno datblygiad economaidd', mae'n ymddangos mai datblygiadau twristaidd sydd ar gynnydd drwy'r sir.
"Mae profiad ardaloedd eraill o fewn y sir yn dangos sut y mae cymeriad ac iaith cymuned yn cael eu newid o ganlyniad i ddatblygiadau twristaidd anghydnaws."
Ond mae Cyngor Gwynedd wedi pwysleisio bod y cais am y statws yn ymwneud â dathlu hanes cyfoethog yr ardal, gan ychwanegu y bydd yr iaith Gymraeg yn parhau yn greiddiol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd27 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020