Richard Jones, cerddor a chyfansoddwr Ail Symudiad, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Richard JonesFfynhonnell y llun, Richard Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Richard Jones tra ar ymweliad yng Nghaernarfon nos Fercher

Mae'r cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd Richard Jones wedi marw yn 65 oed - fis yn unig wedi marwolaeth ei frawd a'i gyd-aelod o'r grŵp pync poblogaidd, Ail Symudiad.

Sefydlodd Richard a Wyn Jones y grŵp yn Aberteifi yn 1978 gan ryddhau nifer o recordiau poblogaidd dros 40 mlynedd.

Fe wnaeth y brodyr hefyd sefydlu label recordiau annibynnol Fflach a stiwdio recordio yn y dref.

Richard Jones oedd prif leisydd y band ac roedd hefyd yn chwarae'r gitâr.

Wyn, a fu farw o ganser ddiwedd Mehefin, oedd yn chwarae'r gitâr fas ac roedd hefyd yn llais cefndir i'r band.

Mae eu caneuon mwyaf poblogaidd yn cynnwys 'Garej Paradwys', 'Twristiaid yn y Dre', 'Llwyngwair' a 'Geiriau'.

Wyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Wyn Jones ar y chwith, gyda Richard, mewn sesiwn recordio i BBC Radio Cymru yn 2012

Roedd Ail Symudiad ymysg y cyntaf i hanu o'r ardal oedd yn canu caneuon roc, ac yn wahanol i nifer o fandiau poblogaidd Cymraeg y cyfnod, ni chafodd ei ffurfio mewn coleg na phrifysgol.

Enillodd y band y wobr prif grŵp roc yng Ngwobrau Sgrech yng Nghorwen yn 1982.

Flwyddyn ynghynt roedd y brodyr Jones wedi sefydlu label recordio Fflach, gyda'r bwriad o recordio caneuon grwpiau newydd y cyfnod, fel Y Ficar ac Eryr Wen.

Aethon nhw ymlaen i sefydlu is-label Fflach:tradd yn 1997 gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth corau, bandiau pres ac artistiaid gwerin.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eryr Wen

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eryr Wen

Yn fwy diweddar mae artistiaid yn cynnwys Y Ffug, Bromas, MC Mabon a Swci Boscawen wedi recordio a rhyddhau cerddoriaeth ar yr is-label Rasp, sef llwyfan a sefydlwyd yn 2000 ar gyfer artistiaid newydd ac arbrofol.

Ail Symudiad oedd enillwyr categori Cyfraniad Oes Gwobrau RAP BBC Radio Cymru yn 2010.

Cafodd y brodyr Jones eu hurddo â'r wisg werdd wrth gael eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Hanes Aberteifi

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Hanes Aberteifi

Yn rhoi teyrnged i Richard Jones ar Dros Frecwast fore Iau dywedodd y darlledwr Richard Rees: "Mae'n anhygoel - dim ond cwta bum wythnos yn ôl oedden ni yn yr un sefyllfa yn rhoi teyrngedau i Wyn.

"Bues i'n siarad tipyn gyda Rich ar ôl hynny - weles i fe rhyw bythefnos yn ôl ag o'dd e yn amlwg yn teimlo'r golled i'r carn.

"Naeth e ddweud wrtha i bryd hynny bod colli Wyn fel colli braich.

"Wrth gwrs o'dd neb yn meddwl bryd hynny y bydden ni hefyd yn colli Rich o fewn ychydig wythnosau."

'Methu sôn am un heb y llall'

Ychwanegodd y bydd marwolaethau'r ddau frawd, oedd mor agos, yn golled enfawr i Aberteifi a Chymru yn ehangach.

"O' ti methu sôn am un heb y llall - o'n nhw'n dîm yn hollol," meddai Mr Rees.

"Wyn yn dechnegol yn y stiwdio, Richard yn cyfansoddi, Wyn ar y gitâr fas, Richard yn canu, ag o'dd bywydau'r ddau ohonyn nhw yn hollol ynghlwm gyda'i gilydd dros y 40 mlynedd o Ail Symudiad.

"O'dd Aberteifi yr un mor bwysig i'r ddau ohonyn nhw, ac mae'n anhygoel i feddwl, blwyddyn yn ôl i nawr y bu'r ddau yn canu yn angladd Tommo.

"Mae Aberteifi wedi cael sawl cnoc dros y flwyddyn ddiwethaf 'ma, ac mae Ail Symudiad wedi bod ynghanol yr holl beth.

"Mae colled Wyn a Richard i Aberteifi a'r sin roc wedi bod yn anhygoel."

Wyn Lewis Jones (yn sefyll) gyda'i frawd Richard yn 2018
Disgrifiad o’r llun,

Wyn Lewis Jones (yn sefyll) gyda'i frawd Richard yn 2018

Ychwanegodd y cerddor Geraint Cynan ar Facebook ei fod "ffili credu" y newyddion.

"Diolch fy mod wedi ca'l hanner awr yn ei gwmni w'thnos yn ôl. Dywedodd e wrtha i bod colli Wyn fel colli efaill, nage brawd," meddai.

"Nos da Rich. Cyfansoddwr alawon sy'n cyffwrdd, riffs sy'n aros yn y cof, yn berchen ar hiwmor wacky, diniwed o ddwl, calon fawr, caredigrwydd dibendraw a diffuantrwydd heb ffiniau.

"Anodd meddwl beth i'w ddweud wth Ann, Daf ac Osian a'u teuluoedd, eu ffrindie a phawb yn Aberteifi oedd yn trysori'r ddau grwt na'th gyment i hyrwyddo'r dre a'r diwydiant canu pop Cymreig.

"Ma'n ddiwedd cyfnod, ond am waddol i'w adael."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan eisteddfod

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan eisteddfod

Dywedodd cyfarwyddwr artistig y Theatr Genedlaethol, Arwel Gruffydd, oedd wedi recordio albwm gyda chwmni Fflach yn y 90au, ei bod yn "newyddion echrydus o drist clywed am Richard mor fuan ar ôl Wyn".

"Be' mae rhywun yn ei gofio amdanyn nhw ydy dau oedd yn gwbl ymroddedig i'r sin roc Gymraeg ac yn arbennig i ddatblygu talent newydd," meddai.

"Mae rhywun yn cofio amdanyn nhw wrth gwrs fel pobl Ceredigion ac Aberteifi yn arbennig, ond mi oedd eu cyfraniad nhw i Gymru gyfan heb ei ail.

"Dau mor siriol hefyd - y tynnu coes a'r anwyldeb yna mae rhywun yn ei gofio - ac mae rhywun yn cydymdeimlo yn fawr â'r teulu ar adeg mor eithriadol o anodd."

'Cymaint o gyfraniad'

Ychwanegodd y cyflwynydd a'r cerddor Caryl Parry Jones ei bod "mewn sioc, eto, am fod un o gewri Aberteifi wedi mynd".

"Dave Edwards, wedyn Wyn, a rŵan cwta fis ar ôl i Wyn farw mae Richard wedi'n gadael ni," meddai.

"Y ddau yna 'efo'i gilydd, maen nhw wedi gwneud gymaint o gyfraniad, nid yn unig i'w tref nhw, lle oedden nhw'n cael eu haddoli, ond hefyd i Gymru gyfan ac i'r byd pop Cymraeg.

"Mae eu dylanwad nhw wedi bod yn lot yn fwy nag y bysan nhw fyth yn gallu dychmygu."