Dinasyddion yr UE 'angen ymgeisio dros eu plant'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Daria Grzybowska
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Daria Grzybowska ddim yn gwybod bod angen cyflwyno ceisiadau unigol ar ran ei meibion

Dydy rhai dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru ddim yn ymwybodol bod angen iddyn nhw wneud cais i'w plant gael aros yn y DU, yn ôl elusennau.

Dywedodd Mind Casnewydd a Settled, sy'n helpu ymgeiswyr i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog, bod rhai rhieni hefyd yn cael trafferth canfod y dogfennau angenrheidiol.

Diwedd Mehefin oedd dyddiad cau'r cynllun, ond mae modd gwneud cais hwyr ar sail rhesymau mae'r Swyddfa Gartref wedi eu cyhoeddi.

Yn ôl llefarydd, mae Llywodraeth y DU "wedi rhoi £17m mewn grantiau i rwydwaith o 72 sefydliad" i roi "ystod eang o gymorth amhrisiadwy".

'Dyma gartref y teulu'

Mae Daria Grzybowska, 35, yn dod o Wlad Pwyl ac wedi byw yn Wrecsam ers tua 10 mlynedd.

Mae ganddi ddau o fechgyn, sy'n saith ac 11, a ganwyd yr ieuengaf o'r ddau yn y DU.

Ond doedd hi ddim yn gwybod bod yn rhaid i'r ddau wneud cais am y Cynllun Preswylio'n Sefydlog er mwyn sicrhau eu hawliau.

"Mi ges i wybod, ar ôl i mi wneud cais i fi fy hun, bod rhaid gwneud ceisiadau ar wahân iddyn nhw'u dau," meddai.

"Ro'n i wedi synnu achos mai fi ydy eu mam a fel arfer maen nhw efo fi yn awtomatig ar geisiadau a phethau fel 'na."

Roedd canfod y dogfennau priodol yn "anodd iawn" i Daria hefyd, gan nad ydy hi mewn cysylltiad â thad y plant.

"Dwi ddim yn deall pam bod rhaid i ni wneud hyn. Mae un o'r plant wedi ei eni yma a'r llall yma ers iddo fod yn flwydd a hanner. Dyma gartref y teulu."

Eraill yn yr un cwch

Cafodd Daria gymorth y Polish Integration Support Centre (PISC) yn Wrecsam, wnaeth ei chyfeirio at elusen Mind Casnewydd.

Mae'r sefydliad hwn yn cefnogi ymgeiswyr i'r cynllun ar draws Cymru, ac yn ôl Donald Mutale, sy'n gwneud llawer o'r gwaith hwnnw, mae eraill yn yr un cwch â Daria.

"Yn anffodus, 'dan ni'n dod ar draws mwy a mwy o blant sydd efallai wedi eu geni yn y DU a sydd heb basport neu gerdyn adnabod ac sydd wedi cael trafferth cael gafael ar un achos y pandemig," meddai.

"Mae plant yn y sefyllfa hon yn gallu gwneud cais ar bapur ond mae'r rheiny'n cymryd llawer hwy na cheisiadau ar-lein. Yn ogystal, 'dan ni wedi gweld dinasyddion o'r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir sydd ddim yn ymwybodol bod angen i'w plant ymgeisio."

Yr un yw'r patrwm mae elusen Settled yn ei weld.

"Bob dydd mae rhieni yn dod aton ni nad oedd wedi sylwi bod angen cais unigol ar blentyn," meddai eu rheolwr gyfarwyddwr, Kate Smart.

"Mae rhai rhieni wedi cael gwybod nad ydyn nhw wedi rhoi digon o dystiolaeth bod eu plentyn ifanc iawn wedi byw yn y DU cyn 30 Rhagfyr 2020, ac yn aml iawn mae'n anodd iawn profi hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae PISC Wrecsam yn derbyn nifer fawr o geisiadau am gymorth, medd Anna Buckley

Yn ôl Anna Buckley o PISC, sy'n cefnogi Pwyliaid yn ardal Wrecsam mewn ystod eang o feysydd, dydy'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog "ddim mor hawdd ag y maen nhw'n ei honni", yn enwedig i'r rheiny sydd wedi bod yn ddigartref neu sydd wedi troseddu.

Mae'n dweud bod ymholiadau am y cynllun wedi rhoi "pwysau enfawr" ar y grŵp gwirfoddol.

"Er enghraifft, ers ddoe 'dan ni wedi derbyn 700 e-bost ac mae rhai o'r rheiny'n holi am ble 'dan ni arni o ran y cynllun - 'ydan ni'n cael mynd at y doctor' neu 'gawn ni fynd dramor?' Mae llawer o wybodaeth ddylai fod wedi ei osod yn llawer cliriach.

"Fel arfer, 'dan ni'n bennaf yn help pobl gydag anableddau, materion ariannol, apwyntiadau yn y feddygfa, helpu pobl sy'n galaru, pontio gyda Chyngor Wrecsam - [nawr] os nad oes ganddyn nhw statws sefydlog, mae'n amhosib i'w helpu."

'Byddwn yn ystyried ceisiadau hwyr â rhesymau dilys'

Erbyn 30 Mehefin - y dyddiad cau - roedd 98,600 wedi ymgeisio i'r cynllun yng Nghymru. Mae'r Swyddfa Gartref yn derbyn ceisiadau hwyr ac wedi cyhoeddi rhestr o resymau dilys dros wneud hynny.

Mae'r rheiny'n cynnwys plant nad oedd eu rhieni'n ymwybodol bod angen ymgeisio ar eu rhan.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod "wedi bod yn glir y byddwn yn ystyried, mewn ffordd ymarferol a hyblyg, ceisiadau hwyr sydd â rhesymau dilys dros fethu'r dyddiad cau."

Ychwanegodd: "Ers Ebrill 2019, rydym wedi rhoi £17m mewn grantiau i rwydwaith o 72 sefydliad, sy'n darparu ystod eang o gymorth amhrisiadwy ar draws y DU, ac yn sicrhau bod y rheiny sydd dan fwyaf o risg yn dal i gael yr help maen nhw ei angen."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "annog rhieni" i gysylltu â sefydliadau fel Settled sydd wedi eu hariannu i helpu pobl â'u ceisiadau. Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi ymrwymo i gyllido'r sefydliadau hynny hyd at ddiwedd Rhagfyr.

Pynciau cysylltiedig