Staff cyngor sir i wisgo camerâu corff wedi camdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
camera corffFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r cyngor ddim yn bwriadu rhoi camera i bob aelod o staff sy'n delio a'r cyhoedd

Mae cyngor sir yn y gogledd wedi penderfynu rhoi camerâu corff i rai aelodau staff er mwyn mynd i'r afael ag achosion o gamdriniaeth.

Yn ôl Cyngor Sir Ddinbych, mae staff sy'n gweithio'n agos â'r cyhoedd wedi gweld cynnydd mewn achosion o gamdriniaeth wrth i'r cyfyngiadau covid lacio.

Daw hyn wedi i ddyn gael ei arestio ar ôl honiadau ei fod o wedi gwneud sylwadau bygythiol a hiliol tuag at swyddog traffig wnaeth roi tocyn parcio iddo ym mhentre' Llanberis yng Ngwynedd.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y dyn, sy'n dod o'r ardal, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn edrych ar yr achos.

Dywedodd Tony Ward, pennaeth gwasanaethau ffyrdd ac amgylchedd Cyngor Sir Ddinbych, ei bod hi'n "gyffredin i weld staff yn cael eu cam-drin, gyda rhai achosion hyd yn oed yn arwain at ymchwiliadau gan yr heddlu".

"Mae rhywbeth yn digwydd i'n staff bob dydd, boed hynny yn bobl yn bod yn annifyr, yn fygythiol neu'n ymosodol. Mae rhai o'r achosion 'da ni wedi ei weld yn gas iawn," meddai.

Ychwanegodd bod rhai o'r achosion hyn yn cynnwys camdriniaeth hiliol, ac y byddai'r camerâu corff yn helpu i ddarparu tystiolaeth pe bai angen cyfeirio'r digwyddiad at yr heddlu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Ward y gallai'r gamdriniaeth fod yn gysylltiedig â'r pwysau cynyddol sydd wedi bod ar wasanaethau yn ddiweddar

Dyw'r camerâu ddim yn cael eu rhoi i bob aelod o staff sy'n delio a'r cyhoedd, ond mae Mr Ward yn dweud y byddai'r cyngor yn ystyried ehangu'r cynllun pe bai angen.

Awgrymodd y gallai'r cynnydd mewn achosion o staff yn cael eu cam-drin fod yn gysylltiedig â'r ffaith bod rhagor o bwysau ar wasanaethau yn sgil cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, ond nododd bod pobl leol yn gyfrifol am ymddygiad o'r fath hefyd.