Digwyddiad 'difrifol' mewn parc gwyliau ger Abergele
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ym mharc gwyliau Tŷ Mawr brynhawn Sadwrn
Mae'r heddlu'n dweud eu bod nhw wedi ymateb i "ddigwyddiad difrifol" mewn parc gwyliau ger Abergele ddydd Sadwrn.
Ni chafwyd rhagor o fanylion gan Heddlu'r Gogledd am yr hyn ddigwyddodd ym mharc gwyliau Tŷ Mawr yn Nhywyn.
Dywedodd llefarydd ar ran y parc eu bod nhw wedi eu "syfrdanu a'u tristau wedi'r digwyddiad trasig yma".
Yn ôl Heddlu De Cymru, mae swyddogion yn parhau ar y safle ond does dim peryg i'r cyhoedd.
Mae yna ofyn i bobl gadw draw o'r ardal tra bod ymchwiliadau'n parhau.