Heddlu'n enwi bachgen fu farw yn Afon Ogwr ger Pen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Mae ditectifs wedi cadarnhau enw'r bachgen pump oed y cafwyd hyd i'w gorff yn Afon Ogwr ar gyrion Pen-y-bont fore Sadwrn.
Roedd Logan Mwangi, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, o ardal Sarn.
Mae ffrindiau teuluol wedi rhoi teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol gan ei ddisgrifio fel bachgen "caredig, doniol, cwrtais, hardd a chlyfar".
Dywedodd Heddlu De Cymru nos Sul eu bod wedi arestio dyn 39 oed, menyw 30 oed a bachgen 13 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae'r llu hefyd yn dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 05:45 bore Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod plentyn ar goll yn ardal Sarn.
Cafodd Logan ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ond daeth cadarnhad yn ddiweddarach ei fod wedi marw.
Mae ymholiadau'n parhau i geisio cadarnhau sut y daeth Logan i fod yn yr afon ac mae'r llu'n apelio am wybodaeth gan unrhyw dystion posib oedd yn yr ardal am 05:45 fore Sadwrn.

Mae teganau wedi eu gadael er cof am Logan ger yr ardal ger Agon Ogwr

Dywedodd y Prif Arolygydd Geraint White ei fod yn "ddigwyddiad trasig", gan apelio am wybodaeth gan unrhyw un allai fod wedi gweld y digwyddiad.
"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd beidio trafod yr achos ar wefannau cymdeithasol gan fod yr ymchwiliad yn parhau", meddai.
"Os oes gyda chi wybodaeth allai helpu, rhowch wybod i ni."
Ychwanegodd bod swyddogion heddlu arbenigol "mewn cysylltiad cyson" gyda theulu Logan.
"Mae hwn yn ymchwiliad eang a sensitif ac mae llawer o bobl wedi eu heffeithio gan y farwolaeth yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2021