Ateb y Galw: Y cerddor Ifan Emlyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Ifan Emlyn JonesFfynhonnell y llun, Ifan Emlyn Jones

Y cynhyrchydd a'r cerddor Ifan Emlyn Jones sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddo gael ei enwebu gan Marged Rhys yr wythnos diwethaf.

Ifan Emlyn Jones yw gitarydd Candelas, BOI a Rhys Gwynfor. Mae hefyd yn gweithio fel cynhyrchydd cerddoriaeth o Stiwdio Sain ac wedi gweithio gyda Y Cledrau, Mared Williams ac Yr Eira. Mae'n byw yng Nghaernarfon ac yn mwynhau beicio o bob math a mynydda.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Gwylio Dad yn dringo ar ben y to drwy'r skylight yn y tŷ yn Rhydymain a crio achos o'n i'n meddwl fod o byth am ddod nôl. Dwy oed o'n i ar y pryd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Coed y Brenin. Dwi'n mwynhau beicio mynydd yno ac mae'n lle anhygoel i gael bach o lonyddwch! 'Swn i'n licio cal tŷ wedi'i ddylunio fel adeilad y caffi yno.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Chwarae gig y pafiliwn efo Candelas yn Steddfod y Fenni yn 2016.

Disgrifiad o’r llun,

Candelas yn perfformio mewn gig arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 2016

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Pan wnaeth Lowri (nghariad i) a finne ffeindio allan bod y ddau ohona nin hoffi geekio allan am goed. Os welwch chi ddau ddihiryn yn eich gardd yn edmygu eich Coeden Ffawydden, ni fydd o.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae fy chwaer saith mlynedd yn hŷn na fi. Pan o'n i'n fach a hithau yn ei harddegau roedden ni'n ffraeo dipyn - y ffordd o'n i'n taro nôl oedd drwy fod yn passive aggressive iawn. Roedd ganddi gasgliad o gerrig arbennig yn ei 'stafell a mi wnes i eu dwyn nhw garreg fesul carreg a'u cuddio dros gyfnod o fisoedd a teimlo'n bles iawn efo'n hun. Dim ond yn ddiweddar iawn dwi wedi cyfaddau i hyn... sori Delyth.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Penderfynol, ymarferol a CymrydDimLol.

Ffynhonnell y llun, Ifan Emlyn Jones

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Bob tro dwi'n disgyn oddi ar y beic!

O archif Ateb y Galw:

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod o Wispa Golds a peidio cau unrhyw ddrws cwpwrdd dwi'n ei agor. (Dwi ddim yn ystyried yr ail un yn arfer drwg ond wedi clywed gormod o gwynion am hyn.)

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o mabolgampau Ysgol Ffridd y Llyn - dwi'n lwcus i ddal i fod mewn cysylltiad ac yn ffrindiau agos hefo'r criw o ddeg oedd yn fy mlwyddyn. (Meddwl 'na gweiddi ar Rhys Gwynfor o'ddwn i!)

Ffynhonnell y llun, Ifan Emlyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mabolgampau Ysgol Ffridd y Llyn

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Die Hard - y ffilm Dolig orau erioed.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Josh Homme, prif ganwr Queens of the Stone Age - i gael gwybod holl gyfrinachau sŵn anhygoel y band.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n ffan mawr o bêl-fasged, a daeth y tîm wnaethon ni ei sefydlu yn Ysgol y Berwyn, y Bala Lakers, yn gyntaf drwy Ogledd Cymru nôl yn 2006. Dwi'n dal i fod mewn bandiau efo pedwar aelod o'r tîm.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Reidio'r beic mynydd yn bore, peint yn siop gwrw Bala efo'n nheulu a ffrindie, a gig yn Neuadd Buddug yn y nos.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Candelas ryddhau eu record cyntaf yn 2013, Candelas

Beth wyt ti'n edrych mlaen at wneud mwya' unwaith fydd pandemig Covid wedi dod i ben?

Mynd i'r Eidal i weld fy ffrind Francesco - ro'n i'n gweithio efo fo ar ralis ceir ar draws Ewrop ers talwm. Mae o'n ei 50au ond yn wirionach na neb dwi'n nabod.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Steph Curry, i fi gael gwybod sut beth ydy chwarae pêl fasged go iawn.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw