Teyrnged i dad 'anhygoel' fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Christopher MontenegroFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Christopher Montenegro yn gyrru Vauxhall Insignia pan fu mewn gwrthdrawiad

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 36 oed fu farw mewn gwrthdrawiad un cerbyd yn Abertawe dros y penwythnos.

Bu farw Christopher Montenegro o Fforest-fach yn y digwyddiad ar y gyffordd rhwng Ffordd y Brenin a Ffordd Caerfyrddin yn yr ardal toc cyn 04:00 fore Sul.

Dywedodd ei wraig mewn teyrnged iddo: "Chris, oedd yn cael ei adnabod fel 'Monty' gan nifer, oedd fy ngŵr, fy ffrind gorau a fy enaid hoff cytûn.

"Alla i ddim dweud wrthych chi pa mor anhygoel ac arbennig oedd e.

"Roedd yn fab, brawd, ac yn bwysicach oll yn dad i'n dau o blant, ac ni fydd bywyd fyth yr un fath hebddo.

"Fe fydd yn rhaid i mi rhywsut ganfod y cryfder i barhau hebddo."

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig