Wyth o lyfrau i'w darllen dros yr haf
- Cyhoeddwyd
Cyfres newydd gyffrous, ffuglen wyddonol eiconig, nofel ddirgelwch gyfoes ac anturiaethau carwriaethol dychmygol Dafydd ap Gwilym - mae 'na gyfrol i bawb i'w fwynhau yr haf hwn.
Dyma detholiad Mari Siôn, sy'n byw yn Aberystwyth ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru. Mae Mari hefyd yn cyflwyno'r podlediad Caru Darllen.
Brodorion gan Ifan Morgan Jones
Yn breuddwydio am wyliau trofannol, ond cyfyngiadau Covid yn eich rhwystro? Brodorion gan Ifan Morgan Jones yw'r gyfrol i chi. Nofel antur wedi ei lleoli ar ynys anghysbell ym Môr yr Iwerydd, lle mae Morys yn benderfynol o sefydlu'r Gymru Newydd, er mawr syndod i drigolion brodorol yr ynys.
Yr Eneth Gadd ei Gwrthod gan Gwen Parrott
Ar ddiwedd noson feddw mewn clwb nos, mae Mererid yn darganfod ei hun yng nghanol dirgelwch ac mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth. Dyma nofel hynod ddarllenadwy, wedi ei gwau'n gelfydd, a fydd yn eich cadw ar binnau hyd y diwedd. Perffaith ar gyfer darllen yn yr haul.
Y Dydd Olaf gan Owain Owain
Argraffiad newydd o'r nofel eiconig gyhoeddwyd gyntaf yn 1976, ac a ystyrir fel y ffuglen wyddonol Gymraeg orau erioed. Llwydda'r nofel nid yn unig i ragweld dylanwad ac effaith datblygiadau technoleg, fel cyfrifiaduron, ar ein cymdeithas, ond i gynnig rhybudd clir a hynod amserol am bwysigrwydd gwarchod cyfoeth amrywiaeth.
Hefyd o ddiddordeb
Rhywle fel Hyn gan Dafydd Iwan
Mae Dafydd Iwan yn datgelu'r hanesion y tu ôl i gyfansoddi nifer o'i ganeuon, o'r anthemau adnabyddus i'r rhai llai cyfarwydd. O bori drwy'r penodau dadlennol hyn cewch gyfle i ail-fyw'r caneuon yn ogystal â darllen rhwng y llinellau. Cyfrol ddelfrydol i unrhyw un sy'n hiraethu am wyliau cerddorol yr haf.
Oes Eos gan Daniel Davies
Ydych chi'n darllen Dafydd ap Gwilym yn eich gwely bob nos? Does dim angen bod yn arbenigwr i fwynhau'r nofel ddychanol hon am fywyd y bardd lliwgar o'r Oesoedd Canol. Mae'r dilyniant i Ceiliog Dandi yn canolbwyntio ar ymdrechion carwriaethol Dafydd i ennill calon Morfudd. Nofel gomig a fydd yn siŵr o godi gwên.
Ryc gan Lleucu Fflur Jones
Mae noson o hwyl ddiniwed yr olwg mewn clwb rygbi yn troi'n hunllef. A fydd y gwir yn cael ei ddatgelu, neu a fydd yn aros yn gudd o dan bentwr o gelwyddau? Dyma nofel afaelgar, hawdd ei darllen, sy'n codi sawl sgwarnog.
Y Pump
Nid un llyfr ond pump! Cyfres newydd gyffrous yn cofleidio cymhlethdodau pum ffrind - Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat. Dyma brosiect uchelgeisiol sy'n cyfuno gwaith gwreiddiol pum sgwennwr gyda barn, cyngor a brwdfrydedd pum cyd-awdur ifanc. Cyfres unigryw, ddifyr a hollol gyfareddol, yn ôl Manon Steffan Ros, a chyfres berffaith i'w llowcio dros wyliau'r haf gan ddarllenwyr o bob oed!
Rhwng Gwlân a Gwe gan Anni Llŷn
Amser yn brin? Cael hi'n anodd canolbwyntio ar nofel gyfan? Rhowch gynnig ar gyfrol farddoniaeth gyntaf Anni Llŷn i oedolion. Dyma lyfr twt a fydd yn ffitio'n rhwydd yn eich bag neu'ch poced. Ymgollwch mewn cerdd neu ddwy dros baned, yn yr ardd, cyn clwydo, a dianc am ddeg munud da.
Mae'r cyfrolau hyn - a llawer mwy - ar gael nawr o'ch siop lyfrau leol.