'20,000 o dai cymdeithasol i'w rhentu erbyn 2026'

  • Cyhoeddwyd
Tai cymdeithasol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwriad i godi miloedd o dai cymdeithasol carbon isel ar draws Cymru

Bydd cynlluniau i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yng Nghymru erbyn 2026 yn cael eu hamlinellu'n ddiweddarach.

Y gobaith yw helpu taclo prinder tai yn ogystal ag allyriadau tŷ gwydr y wlad.

Mae cymdeithasau tai'n dweud y gallai arwain at filoedd o swyddi a chyfleoedd hyfforddi.

Ond mae gwrthwynebwyr y llywodraeth yn mynnu y bydden nhw'n mynd ymhellach ac yn adeiladu mwy.

Bydd yn rhaid i'r holl dai gyrraedd yr hyn mae'r llywodraeth wedi'i ddisgrifio fel "safonau ansawdd ac amgylcheddol newydd, uchel".

Gallai rhai hyd yn oed weithredu fel pwerdai trydan - yn defnyddio technoleg ynni adnewyddadwy i gynhyrchu mwy o bŵer na sydd angen ar y tŷ. Gallai hyn wedyn gael ei anfon i'r grid ynni i gyflenwi cartrefi eraill.

Cam 'hynod arwyddocaol'

Bydd gwariant ar dai cymdeithasol ar gyfer rhentu yn 2021-22 yn cael ei ddyblu i ddechrau ar y gwaith - gyda gweinidogion yn ymrwymo £250m i'r prosiect.

Dywedodd Bethan Proctor, swyddog polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru ei fod yn gam "hynod arwyddocaol".

"Mae wir yn mynd i alluogi cymdeithasau tai i ddechrau datgarboneiddio ar raddfa eang ac fe fydd 'na effeithiau positif ar draws Cymru."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y cynlluniau yw helpu taclo prinder tai yn ogystal ag allyriadau tŷ gwydr

Gallai'r rhain, meddai, gynnwys creu 7,000 o swyddi, 3,000 o gyfleoedd hyfforddi a helpu cyfrannu bron i £2bn o allbwn economaidd yng Nghymru yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Fe ychwanegodd fod byw mewn cartrefi o safon uchel hefyd yn gwella iechyd meddyliol a chorfforol pobl, tra'n taclo tlodi tanwydd.

Miloedd ar restrau aros

Dweud eu bod yn croesawu'r newid tuag at adeiladu cartrefi cymdeithasol yn hytrach na "thai fforddiadwy" - sy'n dal i fod yn rhy ddrud i lawer - mae elusen ddigartrefedd Shelter Cymru.

"I roi hyn yn ei gyd-destun, mae 'na yn agos at 70,000 o deuluoedd yng Nghymru sydd ar restrau aros ar gyfer tai cymdeithasol," eglurodd prif weithredwr yr elusen, Ruth Power.

"Mae hefyd gennym ni dros 6,000 o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru a dan y polisi 'hawl i brynu' hyd at 2016 ry'n ni wedi colli 139,000 o gartrefi cymdeithasol."

"Felly ry'n ni wir yn croesawu'r ymrwymiad yma gan y llywodraeth ond mae'r ffigyrau yma yn rhoi ryw fath o syniad i chi o raddfa'r ymateb sydd ei angen i daclo'r argyfwng tai yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna alw hefyd am ôl-osod technolegau gwyrdd ac insiwleiddio hen dai

Mae angen canolbwyntio hefyd ar y sawl sy'n byw yn stoc tai presennol Cymru, awgrymodd - cartrefi sydd ymhlith yr hynaf yn y Deyrnas Unedig.

Mae'n bwynt sy'n cael ei godi hefyd gan amgylcheddwyr, sy'n dweud mai'r "her go iawn" o ran lleihau allyriadau tŷ gwydr y sector dai yw ôl-osod technolegau gwyrdd ac insiwleiddio hen dai.

"Fydden i wir yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth glir iawn o ran mynd i'r afael â'r stoc tai presennol," meddai Dr Anna Bullen, rheolwr labordy arloesi'r Ganolfan Dechnoleg Amgen (CAT) ym Machynlleth.

"Bydd 90% o dai presennol dal yn cael eu defnyddio yn 2050," meddai, felly mae angen rhaglen ôl-osod "ar frys".

Addewidion etholiad

Awgrymodd adroddiad, dolen allanol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 bod 21% o allyriadau carbon y wlad yn deillio o dai.

Roedd adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn un o brif bolisïau maniffesto'r Blaid Lafur cyn etholiad diweddar y Senedd, gyda'u gwrthwynebwyr yn addo targedau uwch.

Dywedodd y Ceidwadwyr y bydden nhw'n adeiladu 100,000 o gartrefi yn ystod y degawd nesaf, gyda 40,000 o'r rheiny'n gartrefi cymdeithasol.

Roedd Plaid Cymru wedi addo 30,000 o dai cymdeithasol fel rhan o becyn o 50,000 fyddai hefyd yn cynnwys tai fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cynnig codi 30,000 o dai cymdeithasol.

Yn ôl Paul Allen, cyfarwyddwr prosiect Prydain Sero Carbon CAT, er mor gadarnhaol yw'r buddsoddiad newydd mewn tai carbon isel fe ddylai pob tŷ newydd sy'n cael ei adeiladu yng Nghymru o hyn allan orfod cyrraedd "targedau sero-net arloesol".

Pynciau cysylltiedig