Aur i Hannah Mills yn yr hwylio yn Tokyo
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraes Hannah Mills wedi ennill medal aur i dîm Prydain, gyda'i phartner Eilidh McIntyre, yn yr hwylio yng Ngemau Olympaidd Tokyo.
Mills, o Gaerdydd, bellach ydy'r hwylwraig fwyaf llwyddiannus erioed yn y Gemau Olympaidd wedi iddi ennill yng nghystadleuaeth y dosbarth 470 ddydd Mercher.
Daw hynny wedi iddi ennill medal arian yn yr un gystadleuaeth yn Llundain yn 2012, ac aur yn Rio yn 2016.
Roedd Mills a McIntyre wedi rheoli'r gystadleuaeth yn Enoshima o'r dechrau, gan ennill dau gymal, ac roedd gorffen yn bumed yn y ras olaf yn ddigon i selio'r fedal aur.
Roedd rhaid aros am gadarnhad o'r canlyniad yn dilyn protest gan dîm Ffrainc ar ddiwedd y ras, ond cafodd hynny ei wrthod gan swyddogion.
Mae'n golygu bod Gwlad Pwyl yn cael arian, a Ffrainc yn cael y fedal efydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019
- Cyhoeddwyd18 Awst 2016