Bachgen tair oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ar fferm
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn tair oed wedi marw mewn digwyddiad ar fferm ger Efailwen yn Sir Gaearfyrddin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r fferm nos Fawrth, 3 Awst wedi adroddiad o wrthdrawiad rhwng y plentyn a cherbyd yno.
Bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys: "Cafodd yr heddlu eu galw i wrthdrawiad rhwng cerbyd a phlentyn ar eiddo preifat am oddeutu 19:00 nos Fawrth.
"Yn drist iawn bu farw bachgen bach tair oed.
"Mae ymchwiliad i amgylchiadau'r digwyddiad wedi dechrau ac mae'r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
"Cafodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r crwner eu hysbysu. Ni chafodd unrhyw un arall ei anafu."
'Loes a phoen anfesuradwy'
Cadarnhaodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod nhw wedi gyrru ambiwlans a dau gerbyd ymateb brys i ddigwyddiad yn ardal Efailwen, Sir Gaerfyrddin am 18:58 nos Fawrth.
Mae Carwyn James yn berchennog busnes yn yr ardal ac wrth ymateb dywedodd: "Mae lot ohonom ni yn dod o gefndir amaethyddol, cefndir gwledig iawn sydd â chymdeithasau agos a ni gyd yn cefnogi'n gilydd mewn amser caled ond all neb ddychmygu y loes a'r poen mae'r teulu yma yn ei wynebu.
"Mae'n ddigwyddiad hollol erchyll. Mae'n anfesuradwy faint o loes a phoen mae'r teulu yma yn ei wynebu ar hyn o bryd."
Dywedodd y Parchedig Huw George sy'n weinidog ac yn gynghorydd gerllaw: "Ni fel ardal yn gwingo o dan gwmwl. Mae geiriau yn diflannu... beth sydd 'dan ni yw teulu ac unigolion sy'n dioddef ond mae nhw'n gwybod bod yr ardal hon a theuluoedd y fro yma ar eu cyfer."