Dyfan Lewis yw enillydd Coron Eisteddfod AmGen 2021

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dyfan LewisFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Dyfan Lewis yw enillydd Coron Eisteddfod AmGen 2021.

Daeth y bardd, sy'n wreiddiol o Graig-cefn-parc, ond yn byw yng Nghaerdydd, i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 19 o geisiadau.

Cyflwynir y Goron, a gynlluniwyd a chrëwyd gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas, am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 200 o linellau ar y pwnc, 'Ar Wahân'.

Y beirniaid oedd Aled Lewis Evans, Elan Grug Muse ac Elinor Wyn Reynolds.

Roedd geiriau Elinor Wyn Reynolds yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau yn llawn canmoliaeth: "Dyma gyfres o gerddi trydanol, cyhyrog, deallus; mae'r bardd yn ddiwastraff yn ei ddefnydd o eiriau a'i fynegiant. Mae ganddynt undod pendant ac maent yn creu casgliad amlhaenog, aeddfed o gerddi sy'n haeddu eu darllen sawl gwaith o'r bron."

'Mynegiant celfydd'

Aled Lewis Evans oedd yn traddodi ar ran y tri beirniad, ac wrth ysgrifennu am gasgliad Mop (ffugenw Dyfan Lewis) dywedodd: "Hoffais gynildeb y bardd hwn: emosiwn wedi ei ddal yn dynn a'i harneisio'n effeithiol.

"Gwelwn y gallu i grisialu rhin ac addewid a dirgelwch Caerdydd o oes i oes, ond hefyd i ddal ton newydd ei hyder. Mae'r bardd yn gafael ynom efo'r cysyniadau a'r naratif sydd yn y dilyniant hwn.

"Mae'n fynegiant celfydd uniongyrchol, heb geisio bod yn flodeuog.

"Er bod hoff gerddi personol gennym fel tri beirniad unigol, roedd y tri ohonom wrth ddidoli wedi gosod y canlynol yn y Dosbarth Cyntaf - Cysgod, Crwydryn, a Mop.

"Wedi trafodaeth werthfawrogol am y gystadleuaeth drwyddi draw, daethom i'r farn gytûn mai Mop yw enillydd Coron (AmGen) yr Eisteddfod eleni."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Goron eleni ei chreu gan swyddog technegol yr Eisteddfod, Tony Thomas

Magwyd Dyfan Lewis yng Nghraig-cefn-parc. Aeth i Ysgol Gynradd Felindre ac Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe cyn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn 2018, dechreuodd rannu ei waith creadigol gyda phamffled o gerddi a ffotograffau o'r enw Golau. Y flwyddyn honno hefyd enillodd ar y stori fer ac ar yr ysgrif yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Daeth 'Mawr', pamffled arall o gerddi yn 2019, a'r llynedd cyhoeddodd gyfrol o ysgrifau taith, 'Amser Mynd' ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan Lenyddiaeth Cymru.

Mae'n diolch i Efa, i'w rieni Angharad ac Emyr, ac i Owain ac Esyllt am eu cefnogaeth gyson.

Gyda gohirio'r Eisteddfod eleni, mae'r trefnwyr, yr Orsedd a'r darlledwyr wedi cydweithio er mwyn sicrhau bod modd cynnal seremonïau urddasola diogel i bawb. Meddai Christine James, Cofiadur yr Orsedd, "Yn naturiol, mae'r amgylchiadau eleni wedi gorfodi nifer o newidiadau arnom: cynulleidfa fach, nifer cyfyngedig o Orseddogion, ac mae'n rhaid gwneud rhai pethau mewn ffordd ychydig yn wahanol -gyda'r seremonïau'n digwydd gyda'r nos, ac ar ddiwrnodau gwahanol i'r arfer.

"Ond mae llawer o elfennau cyfarwydd hefyd: gorymdaith yr Archdderwydd, Gweddi'r Orsedd a'r Corn Gwlad. A'r un hefyd yw'r urddas a'r ysblander - a'r wefr o ddatgelu a oes rhywun wedi llwyddo i gyrraedd safonau'r beirniaid eleni!"

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod, a bydd y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy'n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod i gyd, ar gael fore Sadwrn 7 Awst.