Gareth Evans-Jones yn cipio'r Fedal Ddrama am yr eildro

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gareth Evans-JonesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gareth Evans-Jones hefyd gipio'r wobr yn 2019 am y ddrama Adar Papur

Enillydd Medal Ddrama Eisteddfod AmGen 2021 yw Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn.

Dyma'r ail dro iddo gipio'r Fedal, gan iddo hefyd ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst yn 2019 am ei ddrama Adar Papur.

Y tro hwn, 'Mwgwd' oedd ei ffugenw amserol. Derbyniodd ei wobr mewn seremoni arbennig yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd, yn unol â'r cyfyngiadau Covid sydd mewn grym.

Cyflwynwyd y Fedal Ddrama eleni am ddrama fer ar gyfer y llwyfan neu ddigidol, heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd, a chafwyd pum ymgais yn y gystadleuaeth eleni.

'Buddsoddi o'r dudalen gyntaf'

Wrth drafod y ddrama, Cadi Ffan a Jan, gan Mwgwd, dywedodd y beirniad, Gwennan Mair Jones: "Mae'r deialog rhwng y cymeriadau yn naturiol iawn ac yn dafodieithol ddifyr.

"Mae'r cymeriadau yn grwn a real a theimlwn ein bod yn eu hadnabod yn syth ac yn eu hoffi hefyd; felly rydym yn barod iawn i fuddsoddi yn y ddrama o'r dudalen gyntaf.

"Mae'n anodd iawn sgwennu comedi sydd hefyd yn llawn dyfnder a braf iawn gweld drama syml sy'n aros yn y cof.

"Dyma awdur addawol iawn ac yn sicr mae potensial mawr i'r ddrama hon fod yn ffilm neu ddrama lwyfan lwyddiannus iawn."

Ystyrir cydweithio gyda'r enillydd er mwyn datblygu'r gwaith buddugol mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Medal Ddrama AmGen 2021

Dyma'r eildro i Gareth Evans-Jones gyrraedd y brig ac mae hefyd wedi ennill gwobr Y Ddrama Orau yn yr Iaith Gymraeg gan Gymdeithas Ddrama Cymru yn 2010 a 2012, Medal Ddrama'r Eisteddfod Ryng-golegol 2012, Coron Eisteddfod Môn 2016 a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn 2019.

Ar ôl derbyn ei addysg yn ysgolion Llanbedrgoch, Goronwy Owen, Benllech, a Syr Thomas Jones, Amlwch, aeth i Brifysgol Bangor i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol.

Dilynodd gwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2014 a chwblhaodd ddoethuriaeth yn 2017, a oedd yn ystyried ymatebion crefyddol y Cymry yn America i fater caethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838-1868.

Bellach mae'n ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor.

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018 a golygodd gyfrol o straeon byrion bach a gyhoeddwyd eleni, sef Can Curiad.

Mae wedi cyfrannu straeon byrion, darnau o lên feicro a cherddi i wahanol gyfnodolion a chyfrolau, gan gynnwys O'r Pedwar Gwynt ac Y Stamp, ac mae wedi llunio dramâu ac ymgomiau ar gyfer Theatr Fach, Llangefni, criw Brain Cwmni'r Frân Wen, a Theatr Genedlaethol Cymru.

Ynghyd â llenydda, mae'n ymwneud â gwahanol fudiadau lleol - mae'n ysgrifennydd Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas a Chymdeithas Lenyddol Bro Goronwy, yn ogystal â bod yn un o gyd-gyfarwyddwyr artistig Theatr Fach, Llangefni.