'Colli gwaddol yr Eisteddfod yn ergyd i ardal'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y FenniFfynhonnell y llun, Kiran Ridley
Disgrifiad o’r llun,

Fe elwodd ardal Y Fenni yn fawr wedi i'r Brifwyl fod yno yn 2016

"Mae colli gwaddol yr Eisteddfod yn golled sylweddol i ardal ac fe all hi gymryd blwyddyn neu ddwy cyn i bethau ddod nôl i normal," medd cyn-drysorydd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mewn cyfweliad â Dros Frecwast dywed Eric Davies: "Mae'n anodd rhoi ffigwr penodol ond mae degau o filiynau o bunnau yn cael eu cynhyrchu gan yr Eisteddfod [wrth iddi ymweld ag ardal] ac mae hynny heb gyfrif be sy'n digwydd yn barhaol wrth i fusnesau gael eu sefydlu.

"Faint o bobl fuodd yn Eisteddfod Y Fenni, er enghraifft, ac sydd wedi mynd yn ôl yna wedyn yn ystod y flwyddyn i wario arian?

"Faint o bobl sydd wedi bod mewn Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Caernarfon neu'r gorllewin ac yna yn mynd nôl i'r ardaloedd yna wedyn am wyliau?

"Mae'n anodd dodi ffigwr penodol ond mae'r Eisteddfod yn 'neud cyfraniad sylweddol i ardal, ac yn aml dyw pobl ddim yn sylweddoli faint yw cyfraniad y Brifwyl."

Ffynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryderon y gall hi gymryd blwyddyn neu ddwy cyn i bawb fynd i ddigwyddiadau torfol fel y Brifwyl

Y gobaith yw y bydd Eisteddfod Ceredigion yn cael ei chynnal yn Nhregaron y flwyddyn nesaf ac y bydd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn cael ei chynnal ym Moduan ger Pwllheli yn 2023.

Mae Eric Davies, sy'n berchen ar gwmni cyfrifwyr yn Abertawe, yn rhagweld y gall hi gymryd blwyddyn neu ddwy cyn y bydd pobl yn teimlo'n hollol gyffyrddus i ddychwelyd i wyliau torfol fel yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Rwy'n credu bod y pandemig yn mynd i gael effaith am ddwy neu dair blynedd," meddai, "ac effaith wahanol ar wahanol ardaloedd.

"Mae'r ochr ddiwylliannol wedi aros wrth i'r ŵyl gael ei chynnal ar y we ond o ran arian i'r gymuned leol mae rhywle fel Tregaron wedi colli allan yn enfawr yn economaidd.

"Dwi wedi gorffen fel trysorydd ond yn ymwybodol fod y pandemig wedi achosi colled anferth i'r 'Steddfod ac mae'r stondinwyr wedi bod yn arbennig o dda gan ddeall maint y colledion.

"Bydd yna gwestiynau yn cael eu gofyn am bob gweithgaredd yn y dyfodol - cwestiynau am ymdopi â'r drefn newydd. Bydd yna gwestiynau am lenwi'r pafiliwn yn ystod y coroni a'r cadeirio. Bydd yn rhaid i ni ymdopi ond mae rhywun yn gofidio rywfaint am ddyfodol y Brifwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pethau Olyv yn gobeithio y byddant â stondin yn Nhregaron flwyddyn nesaf

Un stondin sy'n ymweld yn gyson â'r Eisteddfod Genedlaethol yw Pethau Olyv o Sanclêr.

Dywed y perchnogion bod colli'r Brifwyl yn golled ond eu bod yn hyderus y byddan nhw yn Nhregaron y flwyddyn nesaf.

"Ni yn disgw'l mla'n i Dregaron," meddent.

"Ni wedi gorfod dod i ben â phethe yn ystod y pandemig. Mae'r bobl leol wedi bod yn ffantastig.

"Ni wedi archebu pethe ar gyfer y 'Steddfod flwyddyn nesa' yn barod - ni gyd yn croesi bysedd."