'Diffyg trafod ar deithiau tramor yn annerbyniol'
- Cyhoeddwyd
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn anhapus am nad yw Llywodraeth y DU, unwaith yn rhagor, wedi ymgynghori â nhw am y newidiadau i deithio rhyngwladol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi newidiadau i'r rhestrau o wledydd coch, oren a gwyrdd ar gyfer Lloegr.
O ganlyniad dywed Llywodraeth Cymru nad yw hi'n bosib iddyn nhw gael polisi ar wahân ac y bydd y rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru hefyd Sul.
Mae datganiad gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu'n "barhaus i gael penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan yn y maes hwn" ond bod "penderfyniadau ar gyfer Lloegr wedi'u gwneud unwaith eto heb drafod â Llywodraeth Cymru na'r llywodraethau datganoledig eraill".
Annog peidio teithio dramor
Dywedodd Ms Morgan: "Mae hyn yn annerbyniol ac mae'r polisi teithio rhyngwladol yn effeithio ar bob rhan o'r DU ac mae angen i fuddiannau Cymru gael eu hystyried fel rhan o'r broses benderfynu.
"Rydym yn hynod siomedig â'r dull gweithredu unochrog hwn ac yn credu bod risgiau amlwg o hyd i iechyd y cyhoedd wrth roi'r hawl i deithio'n rhyngwladol tra bo'r feirws ar led yn fyd-eang.
"Am y rhesymau hyn, rydym yn parhau i argymell na ddylid teithio'n rhyngwladol yr haf hwn ac eithrio am resymau hanfodol."
Ond mae'n dweud gan bod Cymru yn rhannu ffin agored â Lloegr nad yw hi'n ymarferol nac yn bosibl cyflwyno polisi iechyd gwahanol ar wahân ar gyfer y ffin.
Felly, byddwn ninnau'n gwneud yr un newidiadau â'r rhai sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn cynnal yr un system goleuadau traffig â gweddill y DU.
Yn sgil hynny:
Bydd Awstria, yr Almaen, Slofenia, Slofacia, Latfia, Romania a Norwy yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr werdd.
Bydd Georgia, La Réunion, Mayotte a Mecsico yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr goch.
Bydd India, Bahrain, Qatar a'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn cael eu symud o'r rhestr goch i'r rhestr oren.
Bellach, ni fydd pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn y DU, yn Ewrop neu yn Unol Daleithiau America, gyda brechlynnau cymeradwy, yn gorfod hunan-ynysu a chymryd prawf PCR ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd o Ffrainc.
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym am 04:00 ddydd Sul 8 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2021
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2021