Dim angen hunan-ynysu os ydych wedi'ch brechu'n llawn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn esbonio'r drefn newydd ar gyfer hunan-ynysu

Bydd oedolion yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn ac sy'n dod i gysylltiad agos gydag achosion positif o Covid ddim yn gorfod hunan-ynysu o 7 Awst ymlaen.

Bydd y newid yn y rheolau yn effeithio ar tua dwy filiwn o oedolion sydd wedi derbyn cwrs llawn o'r brechlyn.

Ni fydd pobl o dan 18 oed yn gorfod hunan-ynysu chwaith os ydyn nhw wedi dod i gysylltiad agos ag achos positif.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y newidiadau yn "lleddfu'r pwysau ar wasanaethau hanfodol a achoswyd gan y cynnydd cyflym diweddar mewn achosion o Covid".

Mae'r cyhoeddiad wedi'i groesawu gan y gwrthbleidiau, er i Blaid Cymru annog y llywodraeth i fonitro effaith y polisi yn "hynod ofalus".

Arweiniad clir

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad, ond maent yn annog y llywodraeth i gyhoeddi manylion y canllawiau newydd cyn gynted â phosib.

Dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi'r mudiad yng Nghymru y bydd busnesau'n "hynod falch" o glywed y newyddion.

"Tra'n bod ni'n deall bod hunan ynysu wedi bod yn arf iechyd cyhoeddus bwysig, mae wedi amharu ac achosi pryder dros yr wythnosau diwethaf, yn enwedig ymhlith busnesau llai yng Nghymru sydd heb dîm mawr o staff i bwyso arnyn nhw pan mae nifer o'u gweithwyr yn gorfod hunan ynysu."

Roedd hyn yn arbennig o bryderus, meddai, o gofio'i bod hi'n dal yn ddyddiau cynnar yn y broses adfer, a bod ffordd bell i fynd.

"Bydd angen i'r arweiniad i fusnesau ac unigolion fod yn glir ac ar gael yn fuan i bawb, fel y gall perchnogion busnesau a gweithwyr gynllunio ac addasu i'r newidiadau tra'n parhau i gefngoi eu staff."

Daw'r newidiadau i rym ar yr un diwrnod y mae gweinidogion yn bwriadu dileu mwyafrif y cyfyngiadau Covid yng Nghymru.

Bydd pobl sy'n cael prawf positif am coronafeirws yn dal i orfod hunan-ynysu am 10 diwrnod os ydyn nhw wedi derbyn cwrs llawn o'r brechlyn ai peidio.

Bydd pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn parhau i gael eu cynghori gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Gwarchod i gymryd profion PCR ar ddiwrnod dau a diwrnod wyth o'r cyfnod yna.

Bydd y newid yn berthnasol i'r rhai sydd wedi cael ail ddos o'r brechlyn o leia' 14 diwrnod cyn iddyn nhw gael eu hadnabod fel cyswllt agos.

Ffynhonnell y llun, MHorwood

Mae bron i 80% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu brechu'n llawn - y cyfraddau gorau yn y DU.

Mae gorfod hunan-ynysu oherwydd cysylltiad gydag achos positif wedi cael y bai am brinder staff mewn rhai meysydd, ond nid yw Cymru yn cyflwyno rhai o'r eithriadau i'r rheol sydd yn eu lle yn Lloegr.

Yn hytrach na gorfod aros adre, bydd pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn cael cyngor am sut i gadw'u hunain yn ddiogel.

Fe fyddan nhw, er enghraifft, yn cael "cyngor cryf" i beidio ymweld ag ysbytai na chartrefi gofal am 10 diwrnod.

Fe fydd mesurau ychwanegol i'r rhai sy'n gweithio gyda phobl fregus, gan gynnwys staff gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Mae cael gwared ar hunan-ynysu ar gyfer pobl sydd wedi cael cwrs llawn o'r brechlyn yn gam cadarnhaol iawn ymlaen ond nid yw'n golygu diwedd ynysu i bob un ohonom.

"Os ydym am weld diwedd y coronafeirws, mae angen i bob un ohonom gymryd y feirws hwn o ddifrif ac ynysu os oes gennym symptomau a chael prawf.

"Mae hefyd yn bwysig iawn bod pawb yn manteisio ar y cynnig o frechiad. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru - mae clinigau ar agor ym mhob rhan o'r wlad."

Yng Nghymru mae pobl sy'n cael gorchymyn i hunan ynysu gan staff olrhain cysylltiadau yn gorfod gwneud hynny yn ôl y gyfraith.

Mae'n wahanol i gais o'r ap GIG i hunan-ynysu, sydd ddim yn orfodaeth gyfreithiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth staff olrhain cysylltiadau yng Nghymru gysylltu gyda 15,718 o bobl yn yr wythnos hyd at 17 Gorffennaf.

Ddydd Iau fe wnaeth cyfradd achosion Cymru ddisgyn am yr wythfed diwrnod yn olynol i 155.2 achos am bob 100,000 o'r boblogaeth.

Er y cynnydd yn nifer yr achosion dros y deufis diwethaf, mae'r nifer sydd wedi gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty yn llawer is na'r hyn a welwyd yn yr ail don yn gynharach eleni.

Mae 64.3% o boblogaeth Cymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn, sef 2,036,670 o bobl.

Ond dyw chwarter y bobl dan 40 oed - 226,160 - ddim wedi derbyn y dos cyntaf o frechlyn Covid hyd yn oed.

Mae hynny'n cynnwys 25.4% o bobl rhwng 18-29 oed - dros 122,600 o bobl ifanc.

Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, fod ei blaid "wedi bod yn galw am newidiadau i'r rheolau ynysu ar gyfer y rhai sydd wedi'u brechu'n llawn ers cryn amser".

Ychwanegodd ei fod yn "falch bod gweinidogion Llafur wedi gwrando ar y galwadau hynny o'r diwedd".

"Mae cyfradd yr achosion Covid yng Nghymru - fel mewn rhannau eraill o'r DU - wedi gostwng am wyth diwrnod yn olynol ac mae angen i ni ymddiried yn y rhaglen frechlyn a chael ein heconomi ar y ffordd i adferiad," meddai.

"Diolch i waith caled ac ymroddiad miloedd o wyddonwyr, gweithwyr proffesiynol y GIG a gwirfoddolwyr, mae'r daith honno'n dod yn realiti."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd Plaid Cymru: "Rydyn ni wedi dadlau'n gyson dros leddfu cyfyngiadau mewn modd gofalus a phwyllog.

"Mae'n newyddion i'w groesawu bod y dystiolaeth wyddonol bellach yn cefnogi galluogi pobl i osgoi hunan-ynysu os ydyn nhw wedi derbyn dau ddos ​​o'r brechlynnau.

"Ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i fonitro effaith y polisi hwn yn hynod ofalus. Os ydy achosion yn dechrau codi eto, rhaid iddyn nhw fod yn barod i weithredu'n gyflym ac yn briodol."