20 mlynedd ers i ferch gipio'r Gadair am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'n 20 mlynedd union ers i Mererid Hopwood gipio'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2001 am ei hawdl ar y testun Dadeni, gan ddod y ferch gyntaf i ennill y wobr.
Wrth edrych yn ôl, mae Mererid yn gweld bod arwyddocâd hanesyddol i'w buddugoliaeth. Ond i'r unigolyn, mae'n ddiwrnod hanesyddol beth bynnag.
I nodi'r achlysur, bu'n rhannu ei hatgofion o'r diwrnod ar Dros Ginio, Radio Cymru.
"Roedd e'n ddiwrnod mawr i ddweud y lleia'," meddai. "Wrth gwrs mae rhywun yn derbyn y llythyr yn eich hysbysu chi eich bod chi wedi ennill o leia' mis cyn y diwrnod ei hunan, felly mae 'na gynnwrf dros wythnosau yn y galon, a'r angen i deimlo'n weddol fach o dawel, yn bwysig.
"Ond oedd e'n gamp hanesyddol? Mae sawl peth fan'na.
"Fydden i yn hoffi gweld mwy o fenywod yn codi ac yn ennill. Wrth gwrs mae hynny yn rhywbeth sy'n gwasgu. Ond o ran y peth hanesyddol, doedd e ddim yn fwy hanesyddol i fi nag i unrhyw un sydd 'di ennill y Gadair am y tro cyntaf."
'Eisteddfod hanesyddol' clwy'r traed a'r genau
Y flwyddyn honno, bu pryderon am gynnal yr Eisteddfod yn sgil clwy'r traed a'r genau, ac mae Mererid yn cofio Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, yn creu cynnwrf gan ddweud y byddai hi'n 'Eisteddfod hanesyddol' er mwyn annog pobl i ddod i'r maes gan fod sôn am ganslo'r ŵyl yn gyfan gwbl.
"Dwi yn credu oedd Hywel wedyn wrth ei fodd yn dweud 'Wel dewch nawr dydych chi ddim isie bod y rhai sydd ddim yna,' oherwydd y peth hanesyddol yma oedd yn bygwth oedd yn mynd i ddigwydd.
"Oherwydd mai ar y dydd Gwener mae'r cadeirio, roedd ganddo fe wythnos dda i sôn am hyn!"
Dysgu cynganeddu ers chwe blynedd
Er i'w hawdl lwyddo i swyno'r beirniaid, Elwyn Edwards, Dic Jones ac Emyr Lewis, dim ond chwe blynedd ynghynt y dechreuodd Mererid gynganeddu. Meddai:
"Dwi'n cofio gartre, fy nhad yn edmygydd mawr iawn o Dic Jones a'r gamp 'ma, a o'n i'n gwbod fod 'na rhyw gyfrinach, rhyw reswm, rhyw system yn rhywle oedd yn gyfrifol am sŵn y brawddege, a o'n i ishe gwbod beth oedd hwnna.
"O'n i'n gwbod 'mod i isie gwybod ond nid tan es i a'r teulu i fyw i Gaerfyrddin daeth y cyfle, a chlywed am y dosbarthiadau cynganeddu oedd yn digwydd yn The Stag and Pheasant ym Mhontarsais, a chael cwmni yr hyfryd Ann Rosser i ddod gyda fi.
"Y ddwy ohonon ni yn ddwy fenyw yn mentro i'r stafell gefn at y bois, ac yn cael croeso a modd i fyw gyda Tudur Dylan Jones yn dysgu ni, a chriw da yn dod yn gwmni bob yn ail wythnos."
Ei hawdl, Dadeni
Yn ei hawdl fuddugol mae Mererid yn ymdrin â'r ofn sy'n cydio mewn rhieni o golli plentyn, ar ôl iddi hithau gael profiad personol o golli ffrind. Meddai:
"Dwi'n cofio lle ddechreues i arni, roedd gen i dipyn bach o gywydd sy'n dod tua chanol yr awdl fel mae'n sefyll, a rhyw ddychymyg arswydus sydd yn cydio dwi'n siŵr ymhob mam, ymhob rhiant.
"Dychmygu y peth ofnadwy o golli plentyn a wedi cael profiad o golli ffrind a gallu cydymdeimlo neu meddwl 'mod i'n gallu cydymdeimlo gyda rhieni sydd wedi cael yr ergyd waethaf bosib. Fan'na ddechreuodd y syniad, a'r dadeni yn dod o fan'na wedyn.
"Dwi'n hoffi meddwl mai nad tristwch sydd yn y diwedd ond gobaith a dwi'n ceisio dweud yn yr awdl bod 'na bethe anffodus, trist, diflas yn dod i'n rhan ni gyd ond bod hi bob tro yn bosib i ni, os nad ydi'n bosib i ni dynnu'r tudalenne trist yna allan o stori ein bywyd ni, ein bod yn bosib i ni agor tudalen lân a throi at bennod newydd yn yr hanes."
Merched a'r gynghanedd
Yn 2003 daeth Mererid hefyd yn brifardd coronog Eisteddfod Genedlaethol Meifod, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 fe gipiodd Y Fedal Ryddiaith am ei nofel O Ran.
Dim ond un ferch arall sydd wedi ennill y Gadair ers 2001 sef Hilma Lloyd Edwards yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.
A hithau bellach yn Athro'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, hoffai Mererid weld rhagor o ferched yn rhoi cynnig ar gyfansoddi awdlau.
Eglura Mererid: "Mae 'na nifer o ferched yn cynganeddu, mynd ati i sgwennu sydd isie, a falle estyn y cyngor ges i gan Norah Isaac [awdures, darlithydd ac ymgyrchydd iaith]. Oedd hi wedi clywed 'mod i wedi dechrau cynganeddu a ges i symans ati 'Nawr 'te Mererid, mae'n rhaid i chi ysgrifennu awdl' a finne'n wherthin.
'Mererid,' wedodd hi, 'dau beth, mae na bedair awr ar hugain mewn diwrnod ...a mae'n rhaid i chi wneud ymdrech fawr'
"'Nora fach... prin alla i sgwennu englyn heb sôn am awdl. Wel oedd hi'n esbonio mai mater o sgwennu hyn a hyn o englynion a hyn a hyn o gywyddau a bydde'r peth yn dod at ei gilydd.
"A finne'n dweud wrthi: 'Na 'sa i'n credu do' i ben â hynny,' a hithe'n edrych i fyw fy llyged - a mae unrhyw un sydd wedi cael y profiad hynna yn deall, a llais Norah a'i bys hi wedi crymu - 'Mererid,' wedodd hi, 'dau beth, mae 'na bedair awr ar hugain mewn diwrnod.'
"Dyna'r cerydd cynta, bod rhaid i chi wneud y mwyaf o bob awr, a wedyn yr ail beth, 'mae'n rhaid i chi wneud ymdrech fawr,' a meddwl i'n hunan, ie, dyma'r wraig oedd wedi rhoi gymaint dros yr iaith, wedi ysbrydoli gymaint o bobl ifanc i fynd ati i arbrofi ac erbyn hyn roedd yn ymdrech arni hi i fyw, yn ymdrech arni hi i wneud y pethe bach sylfaenol bob dydd a finne yn ei thyb hi, can't be bothered, fel maen nhw yn gweud.
"Methu eistedd yn llonydd am ddigon hir i sgwennu awdl a falle bod hwnna yn gyngor. Dyw e ddim yn dod dros nos, mae'n rhaid iste, mae'n rhaid crafu pen, taflu llinelle fesul dege i'r bin sbwriel, felly mae e'n ymdrech fawr.
"Felly dewch 'mlaen ferched, clowch y drws, estynnwch y papur a bwrwch iddi ar ôl i bawb arall fynd i gysgu, dyna'r oriau tawel."
I glywed rhagor o'r sgwrs, gwrandewch ar Dros Ginio.
Hefyd o ddiddordeb: