Llyfr y Flwyddyn: 'Iechyd meddwl yn epidemig ymysg pobl ifanc'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Enillydd Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn - Megan Angharad Hunter

"Mae'r ansicrwydd a diffyg hyder mor amlwg, felly roedd o'n beth pwysig i mi ar y pryd. Gobeithio fod y nofel yn gwneud i rai pobl ifanc deimlo'n llai unig,"

Dyna oedd gobaith Megan Angharad Hunter, myfyriwr prifysgol o Ddyffryn Nantlle pan gyhoeddodd ei nofel, tu ôl i'r awyr.

Mae thema iechyd meddwl yn amlwg iawn yn y nofel a wnaeth ennill y Wobr Ffuglen a'r Brif Wobr yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni.

Yn ei nofel gyntaf un, mae Megan, sy'n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, yn canolbwyntio ar berthynas dau berson ifanc sydd yn y chweched dosbarth sy'n dioddef o anhwylderau iechyd meddwl dwys.

Yn ôl Megan, roedd ysgrifennu am iechyd meddwl yn 'ddatblygiad naturiol' a bod y pwnc yn 'amlwg iawn' yn ei bywyd, ymysg ei ffrindiau.

Wrth ddisgrifio gwaith Megan Angharad Hunter dywedodd Manon Steffan Ros, cyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn ei hun, mai dyma "y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae'n ysgytwol".

Roedd yn rhaid i Megan gadw'r gyfrinach ei bod wedi ennill y Brif Wobr am dros fis, her meddai hi oedd yn 'heriol iawn.'