Covid: Gweithwyr yn aros adref er i'r cyfyngiadau godi
- Cyhoeddwyd
Er bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau Covid wedi dod i ben yng Nghymru, fydd nifer fawr o weithwyr ddim yn dychwelyd i'r swyddfa ddydd Llun - a'r gred yw na fydd pawb yn dychwelyd yn llawn amser i'r swyddfa fyth eto.
Mae cwmnïau Principality ac Admiral - sy'n cyflogi mwy na 8,000 o bobl rhyngddyn nhw - yn dweud y byddan nhw'n datblygu modelau gweithio "cymysg" gyda nifer o weithwyr yn aros adref yn barhaol tan 2022.
Ddydd Sadwrn newidiodd cyfyngiadau Covid Cymru i lefel sero a daeth y mesurau cadw pellter i ben.
Mae hyn yn golygu y gall gweithwyr ddychwelyd i'r swyddfa ar ôl i asesiadau risg gael eu gwneud.
Er hyn, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj, ei bod wedi'i dychryn ar ôl i arolwg barn ymhlith gweithwyr ddangos nad oedd 25% o reolwyr yn cydymffurfio gyda'r rheolau oedd mewn grym cyn y newidiadau.
Er i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ddweud bod y wlad yn symud i "gyfnod olaf" y pandemig, rhybuddiodd nad oedd llacio'r rheolau yn golygu y bydd bywyd yn mynd yn ôl i fel yr oedd cyn y pandemig.
Y cyngor i fusnesau yw y dylai gweithwyr barhau i weithio o adref pan yn bosib a dyna fydd y rhan fwyaf o weithlu Cymdeithas Adeiladu'r Principality - sy'n cyflogi 800 o bobl - yn ei wneud am y pum mis nesaf wrth iddyn nhw wneud asesiadau risg ar gyfer eu hadeiladau.
"Ar hyn o bryd rydyn ni'n uwchraddio ein prif swyddfa i ddatblygu a gweithredu ffordd o weithio cymysg - rhwng y cartref a'r swyddfa - a bydd y rhan fwyaf o'n gweithwyr yn parhau i weithio o adref tan y flwyddyn nesaf," meddai'r prif weithredwr Julie-Ann Haines.
"Mae newid sylfaenol wedi bod o ran disgwyliadau ac mae cydweithwyr wedi dweud eu bod yn gweld manteision o allu gweithio o adref - mae nifer yn defnyddio amser teithio i ymarfer corff neu sicrhau datblygiad personol ac mae eraill yn mwynhau cael mwy o amser adref."
Mae grŵp yswiriant Admiral - sy'n cyflogi 7,000 o bobl yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd - yn dweud mai dim ond rhan o'r gweithlu fydd yn dychwelyd i'r swyddfa ddydd Llun.
Maen nhw, fel cwmni Principality, yn edrych ar system gymysg o weithio ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd llefarydd: "Mae gennym ni ddiwylliant unigryw yn Admiral a byddwn yn sicrhau bod hynny'n parhau i ffynnu gan annog ein pobl i dreulio amser a chydweithio â'u timau, siarad yn agored a chael hwyl."
Er bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau wedi dod i ben, mae nifer "fach ond arwyddocaol" o ofynion cyfreithiol yn parhau yng Nghymru - gyda busnesau'n gorfod gwneud asesiadau risg cyn i staff ddychwelyd.
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n profi'n bositif hunan-ynysu am 10 diwrnod a bydd yn rhaid i bobl sydd heb eu brechu'n llawn wneud hynny os ydynt yn dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â Covid.
Mae'r rheolau hefyd yn nodi bod yn rhaid sicrhau hylendid da, bod adeiladau wedi eu hawyru'n ddigonol - rhaid defnyddio rhwystrau a sgriniau, cyfyngu ar niferoedd mewn adeiladau a rheoli'r defnydd o risiau a lifftiau.
'Allweddol' dilyn y canllawiau
Dywedodd Ms Taj: "Pan wnaethon ni gynnal arolwg ymhlith gweithwyr y tro diwethaf, roedden ni wedi'n synnu o weld mai dim ond chwarter o reolwyr oedd yn cydymffurfio'n llawn gyda'r gyfraith o ran asesiadau risg coronafeirws.
"Rydyn ni'n croesawu'r canllawiau newydd ond mae ufuddhau iddyn nhw yn gwbl allweddol."
Dywedodd Ben Francis, cadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, ei bod yn "bwysig iawn" fod Llywodraeth Cymru yn gweithredu "ymgyrch gyfathrebu gref" fel bod busnesau'n gallu "addasu i amgylchedd sy'n newid".
Ychwanegodd: "Mae llawer o waith i'w wneud o ran sefydlogi busnesau a'u helpu i adfywio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
- Cyhoeddwyd4 Awst 2021
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021