Parc Bute: Dyn wedi marw 16 diwrnod ar ôl ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Dr Gary JenkinsFfynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dr Gary Jenkins yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 5 Awst

Mae dyn 54 oed oedd yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl ymosodiad mewn parc yng Nghaerdydd wedi marw.

Roedd Dr Gary Jenkins, o Gaerdydd, yn yr ysbyty am dros bythefnos yn dilyn yr ymosodiad ym Mharc Bute yn oriau man 20 Gorffennaf.

Mae teulu'r tad i ddau wedi dweud iddo fyw ei fywyd "yn hapus gyda chariad, cerddoriaeth, creadigrwydd ac ymroddiad i'w broffesiwn".

Dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro eu bod yn meddwl am deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr Dr Jenkins yn y "cyfnod eithriadol o drist ac anodd yma".

"Hoffwn hefyd ddiolch i'n staff gofal dwys wnaeth ofalu am Gary gydol ei gyfnod yn yr ysbyty", meddai'r datganiad.

Mae tri pherson wedi'u cyhuddo o geisio ei lofruddio, ond mae'r heddlu nawr yn trin yr achos fel llofruddiaeth.

Bydd Jason Edwards, 25 o Lan-yr-afon, Caerdydd, Lee William Strickland, 36 a heb gartref penodol, a merch 16 oed, sydd heb ei henwi am resymau cyfreithiol, yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ar 23 Awst.

Dydy'r heddlu ddim yn edrych am unrhyw un arall yn gysylltiedig gyda'r achos.

Dywedodd Stuart Wells o Heddlu De Cymru: "Rydym yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a'r Crwner ynghylch y farwolaeth, ac fe fydd y mater nawr yn cael ei drin fel ymchwiliad i lofruddiaeth."

Ychwanegodd: "Rydym eisiau cysylltu gydag unrhyw un oedd ym Mharc Bute yn ystod oriau man Dydd Mawrth, 20 Gorffennaf."

"Yn benodol rydym eisiau siarad gydag unrhyw un oedd gerllaw Pont y Mileniwm, sy'n cysylltu Parc Bute gyda Gerddi Sophia, rhwng canol nos ac 01:20."

Pynciau cysylltiedig