Giang wedi herwgipio plentyn 'oherwydd cam-drin satanaidd'
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth giang o bobl herwgipio plentyn gan fod un ohonyn nhw'n credu bod y plentyn wedi dioddef camdriniaeth satanaidd.
Fe gafwyd tri pherson yn euog o gynllwynio i herwgipio'r plentyn ar Ynys Môn ym mis Tachwedd 2020 tra bod tri arall wedi cyfadde'r cyhuddiad.
Fe wnaeth Anke Hill, 51 oed, gipio'r plentyn o'r stryd wrth i Wilfred Wong, 56 oed, fygwth mam faeth y plentyn gyda chyllell.
Bydd y ddau, ynghyd â phedwar arall, yn cael eu dedfrydu ym mis Medi.
Fe wnaeth Hill, Jane Going-Hill, 60 oed o Gaergybi, a Kristine Ellis-Petley, 58 o Gaergybi, bledio'n euog o gynllwynio i herwgipio.
Fe wnaeth Wong, o Pied Bull Court, Camden, Janet Stevenson, 67 oed a'i gŵr Edward Stevenson, 69 oed o Parnell Close, Crawley, wadu'r cyhuddiad, ond fe'u cafwyd yn euog gan y rheithgor.
Cafodd yr achos, fis o hyd, ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon ym mis Gorffennaf, ond nid oedd modd adrodd amdano oherwydd gorchymyn llys.
Fe gafwyd Karren Sawford, 48 oed, yn ddieuog, ac fe gafwyd hyd i gorff wythfed diffynnydd, Robert Frith, yn farw yn ei gell yn y carchar y llynedd.
Clywodd y rheithgor sut y gwnaeth Hill gynllwynio gyda Wong a Janet Stevenson i herwgipio'r plentyn o ofal maeth gyda chymorth y pedwar arall.
Roedd Hill yn credu fod y plentyn wedi dioddef camdriniaeth satanaidd yn y gorffennol, cyn mynd i ofal maeth, er i'r heddlu ymchwilio a chanfod nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi'r honiad.
Cafodd y grŵp ei ffurfio wedi i Hill gysylltu gyda Wong, sy'n ymgyrchydd yn erbyn camdriniaeth satanaidd, ar-lein ac roedd cofnodion ffôn yn dangos bod y ddau wedi sgwrsio am oriau lawer. Fe roddodd Wong hi mewn cysylltiad gyda Janet Stevenson - un oedd yn arbenigo mewn cwnsela rhai sydd wedi dioddef camdriniaeth satanaidd.
Ar 4 Tachwedd, fe gipiodd Hill y plentyn ar y ffordd adref o'r ysgol wrth i Wong fygwth y fam faeth gyda chyllell, cyn defnyddio'r un gyllell i dorri teiars ei char.
Dywedodd y fam faeth, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol: "Roedd y plentyn wedi brawychu. Roedd yn galw fy enw a gofyn i mi helpu. Fe wnes i geisio dal fy ngafael cyhyd ag y medrwn.
"Ond yna daeth rhywun y tu ôl i mi gyda chyllell a gorchymyn i mi ei ollwng."
Platiau ffug ar y car
Cafodd y plentyn ei gludo mewn car gyda phlatiau rhif ffug i lon wledig ger Bangor lle'r oedd ail gar - oedd wedi'i hurio gan Janet ac Edward Stevenson - yn disgwyl i gludo Hill, Wong a'r plentyn tuag at dde-ddwyrain Lloegr.
Fe dreuliodd Going-Hill ac Ellis-Petley y cyfnod ar y pontydd rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn gwylio am unrhyw weithgaredd gan yr heddlu.
Cafodd yr heddlu eu galw yn fuan wedi i'r plentyn gael ei gipio, a llwyddo i ganfod y cysylltiadau rhwng aelodau gwahanol y grŵp yn gyflym.
Cafodd y car oedd wedi'i hurio ei atal gan swyddogion ar draffordd yr M1 yn Sir Northampton yn ddiweddarach y noson honno.
Gwadodd Wong unrhyw ran yn y digwyddiad gan ddweud ei fod ar wyliau cerdded yng ngogledd Cymru ac wedi trefnu i gael pas adref gyda'r Stevensons.
Ond nid oedd y rheithgor yn ei gredu gan iddyn nhw ei gael ef a'r Stevensons yn euog wedi wyth awr o ystyried eu dyfarniad.
Mae bargyfreithiwr Janet Stevenson wedi awgrymu y bydd hi'n apelio yn erbyn y rheithfarn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020