Covid wedi cyflymu cyflwyno systemau awtomeiddio
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig wedi cyflymu'r broses o gyflwyno systemau awtomeiddio, medd corff sy'n cynrychioli cwmnïau cynhyrchu Cymru.
Dywed y consortiwm Gweithgynhyrchwyr Cymru bod eu haelodau a busnesau eraill yn mabwysiadu systemau roboteg ddwy neu dair blynedd yn gynt na'r disgwyl.
Mae undeb Unite yn dadlau na ddylai'r dechnoleg newydd ddisodli swyddi gweithwyr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn helpu cwmnïau i ddatblygu technoleg er mwyn parhau'n gystadleuol yn "y bedwaredd oes ddiwydiannol".
'Diogelu dyfodol busnes'
Mae cwmni Rototherm ym Mhort Talbot yn cynhyrchu offer mesur diwydiannol, fel mesuryddion pwysedd, ers y 1840au.
Roedd y cwmni - un o sylfaenwyr y consortiwm - wedi bwriadu mabwysiadu systemau awtomeiddio o fewn y tair blynedd nesaf ond mae'r cynlluniau wedi newid oherwydd y pandemig.
Dywed bod busnesau'n dechrau gwerthfawrogi manteision awtomeiddio.
Dywedodd rheolwr gweithredu Rototherm, Mark Roberts: "Mae'r aelodau rydym yn siarad â nhw, rhai o'r cwmnïau mwy a'r rhai llai sy'n ymwneud ag electroneg, yn gwybod bod angen symud gyda'r amseroedd i'r cyfeiriad yma.
"Rydym yn edrych ar bethau fel roboteg ar gyfer weldio, ac yn y ddwy, dair blynedd nesaf byddwn yn gweld mwy o'r math yma o beth.
"Mae'n diogelu dyfodol busnes oherwydd mae'n sicrhau gwell effeithlonrwydd.
"Mae'n bosib cynnig mwy o gynnyrch ar gyfer y farchnad yn gyflymach, felly mae'n eich gwneud yn fwy cystadleuol."
Yn ôl Mr Roberts, dydy cyflwyno systemau awtomeiddio heb effeithio ar niferoedd staff. Mae busnesau, meddai, wedi creu cyfleoedd trwy fuddsoddi mewn mentrau newydd, gan gynnwys hyfforddi rhai gweithwyr sut i weithredu peiriannau sy'n cael eu rheoli gan gyfrifiaduron.
Diddordeb 'wedi mynd trwy'r to'
Oherwydd rheolau pellter cymdeithasol a hunan-ynysu'r 18 mis diwethaf, mae cwmnïau wedi wynebu sawl her, gan gynnwys prinder staff.
Mae cwmni Industore, Caerdydd yn cynhyrchu unedau storio, codi a symud cynnyrch ar gyfer warysau. Mae'n dweud bod diddordeb yn y cynnyrch "wedi mynd trwy'r to" yn ddiweddar.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Ross Powell: "Mae pobl wedi gorfod troi at awtomeiddio a defnyddio peiriannau fel hyn i sicrhau gallu cadw'u busnes ar agor yn ystod pandemig.
"Rydym wedi sylweddoli bod diwydiannau eraill - cynhyrchwyr ceir, cwmnïau fferyllol a hyd yn oed y diwydiant cosmetig - wedi penderfynu taw awtomeiddio yw'r ffordd ymlaen, a bydd y peiriannau hyn yn arbed amser, arian a gofod."
'Miliynau o swyddi yn y fantol'
Yn ôl ymchwil gan y felin drafod Future Advocacy cyn cyfnod clo cyntaf 2020 mae "wyth miliwn o swyddi ym Mhrydain dan fygythiad yn sgil awtomeiddio erbyn y 2030au cynnar".
Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite Cymru, Peter Hughes: "Bydd Unite wastad yn ceisio sicrhau nad yw cyflwyno technoleg newydd ar draul swyddi gweithwyr.
"Dylai cyflogwyr sy'n cyflwyno awtomeiddio gydweithio gydag undebau i archwilio datrysiadau fel cyfnodau gwaith llai i gynnal lefelau cyflogaeth.
"Bydd y genhedlaeth nesaf o dechnoleg yn creu cyfoeth ac mae angen i hynny fod o fudd i bobl gyffredin, nid dim ond creu elw mwy i gorfforaethau."
Ymatebion llywodraethau
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn helpu busnesau i oresgyn heriau allweddol y dyfodol, yn newid ein dulliau cefnogaeth i'w helpu i ddatblygu ac addasu cynnyrch a thechnoleg newydd i barhau'r gystadleuol yn y bedwaredd oes ddiwydiannol."
Ychwanegodd mai'r nod yw technoleg sy'n helpu "gwneud gwaith teg yn realiti i fwy o weithwyr ar draws Cymru".
Dywedodd Llywodraeth y DU bod £175m wedi'i ymroddi i gyflymu mabwysiadu technolegau newydd yn y sector cynhyrchu.
Ychwanegodd llefarydd bod adolygiad i fanteision technoleg ddigidol yn awgrymu y gallai awtomeiddio "ychwanegu dros 175,000 o swyddi newydd yn y DU, yn hytrach na cholli swyddi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd17 Awst 2018
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2018