Pandemig: Adferiad cynt i ardaloedd twristaidd na dinasoedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Rhossilli, Gower, SwanseaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gyda llai o gyfleoedd i deithio dramor, mae mwy o bobl yn ymweld a llefydd fel y Gŵyr

Wrth i gyfyngiadau coronafeirws Cymru lacio, mae 'na fwy o swyddi newydd yng Ngwynedd ond llai yng Nghaerdydd.

Dyna ganfyddiad ymchwil gan y felin drafod Resolution Foundation, sy'n dweud bod adferiad economaidd diweddar yn anghyson ar draws y Deyrnas Unedig.

Tra bod swyddi wedi cynyddu mewn cymunedau sy'n dibynnu ar dwristiaeth, mae dinasoedd yn ei chael hi'n anoddach.

Cynnydd mewn gwyliau yn y DU, neu staycations, wrth i bobl osgoi teithio tramor Haf yma, sy'n achosi llawer o'r twf mewn ardaloedd arfordirol fel Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn misoedd caled y cyfnod clo, mae twristiaid yn dychwelyd i Landudno

Dywedodd economegydd o'r Resolution Foundation, Charlie McCurdy: "Ers i Gymru dechrau ail-agor ym Mehefin, mae swyddi mewn ardaloedd twristaidd - ac ar draws Cymru yn gyffredinol - wedi adlamu nôl i lefelau sy'n debyg i cyn y pandemig."

"Mae'r staycationing boom haf yma wedi cynnig adfywiad angenrheidiol i nifer o lefydd."

Profiad gwahanol i'r dinasoedd

Ar y llaw arall, mae profiad y dinasoedd wedi bod yn hollol wahanol, wrth i awduron yr adroddiad ddadlau bod pobl yn fwy parod i fynd ar eu gwyliau na dechrau cymudo nôl i'r gwaith.

Er bod cyfyngiadau yn llacio, mae nifer o weithwyr yn parhau i weithio o adref ac felly'n osgoi canol y ddinas.

Yn ôl data Google, mae teithiau i ganol dinasoedd megis Caerdydd dal traean yn is na cyn y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn cwestiynu a fydd pobl yn dychwelyd i weithio mewn dinasoedd fel Caerdydd

Gyda nifer y bobl sy'n teithio i ddinasoedd yn lleihau, mae'n codi'r pwysau ar fusnesau sy'n dibynnu ar fasnach sy'n dod cyn ac ar ôl oriau gwaith.

Dywedodd Charlie McCurdy y gall hynny newid patrymau cyflogaeth ar draws y wlad.

"Gall newid strwythurol i weithio o adref yn fwy aml gael effaith enfawr ar farchnad llafur y DU," meddai.

"Bydd hyn yn rhwystro adferiad safonau byw gweithwyr sydd ar gyflogau isel ymhellach."