TGAU: Mwy o fwlch rhwng y difreintiedig a'u cyfoedion

  • Cyhoeddwyd
Canlyniadau TGAUFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r bwlch canlyniadau TGAU uchaf rhwng plant o gefndiroedd difreintiedig a'u cyd-ddisgyblion wedi cynyddu, yn ôl ffigyrau.

Cafodd mwy o ddisgyblion yng Nghymru y graddau uchaf eleni gyda 28.7% o'r graddau yn A neu A* - sy'n uwch na'r ddwy flynedd flaenorol.

Ond dim ond dros hanner (52%) o ddisgyblion a oedd yn gymwys ar gyfer prydau am ddim wnaeth dderbyn graddau rhwng A* a C, o'i gymharu â 79.3% o ddisgyblion nad oedd yn gymwys.

Dywedodd David Evans, Ysgrifennydd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, fod y pandemig wedi effeithio yn fwy ar gymunedau tlotach.

Mae'r bwlch wedi cynyddu i 27.3% ond fe roedd wedi disgyn i 24.2% y flwyddyn flaenorol.

Disgrifiad,

Mae Dr Steffan Evans o felin drafod Sefydlaid Bevan wedi gwneud ymchwil yn y maes yma

'Annhegwch gwirioneddol'

"Mae tlodi wedi bod yn broblem yma. Nid yw'r pandemig wedi effeithio ar bobl mewn ffordd teg," meddai Mr Evans.

"Bydd yna blant nad ydyn nhw wedi cael lle i ddysgu gartref ac nad ydyn nhw wedi cael yr adnoddau i ddysgu gartref.

"Bydd yn rhaid iddyn nhw rannu adnoddau a bod mewn lleoedd cyfyng ac mae hynny'n annhegwch gwirioneddol na allwn wneud ddim byd amdano ar hyn o bryd.

"Nid yw'n mynd i fod yn rhywbeth allwn ni ei ddatrys yn sydyn. Mae angen i ni weithio gyda'r holl sefydliadau i weld beth allwn ni ei wneud i gywiro'r sefyllfa er mwyn sicrhau yn y dyfodol bod dysgwyr â chyfle mwy teg i lwyddo.

"Mae hyn yn bendant wedi bod yn ffactor wrth ehangu'r bwlch a'r dasg nawr fydd i Lywodraeth Cymru weld beth all gael ei wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen rhoi cefnogaeth ychwanegol i rhai myfyrwyr

Mae ystadegau o ganlyniadau TGAU eleni yn datgelu bod gwahaniaeth pwynt o 11.5% yng ngradd A* rhwng y rhai oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai oedd ddim. Mae hyn wedi cynyddu 2.8 pwynt canran ers y llynedd a 6.2% pwynt ers 2019.

Lansiodd Llywodraeth Cymru ei chynllun 'Adnewyddu a Diwygio' ar gyfer addysg ym mis Mehefin, gyda dros £150m mewn cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021 i 2022.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Dros y flwyddyn nesaf bydd y cynllun 'Adnewyddu a Diwygio' a gyhoeddais ychydig wythnosau yn ôl yn darparu cyllid penodol i gefnogi disgyblion difreintiedig dros y blynyddoedd i ddod oherwydd rydym yn cydnabod nad yw Covid wedi effeithio ar bobl yn gyfartal.

"Fel llywodraeth rydym yn cydnabod hynny ac mae angen inni roi cefnogaeth ychwanegol i'r myfyrwyr hynny sydd ei angen fwyaf."

Pynciau cysylltiedig