Mwy yn cael y graddau TGAU uchaf yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion Garth Olwg
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Garth Olwg ger Pontypridd yn derbyn eu canlyniadau fore Iau

Cafodd mwy o ddisgyblion TGAU yng Nghymru y graddau uchaf eleni, yn ôl y canlyniadau swyddogol a gyhoeddwyd ddydd Iau.

Roedd 28.7% o'r graddau yn A neu A* - sy'n uwch na'r ddwy flynedd flaenorol - wrth i athrawon benderfynu ar raddau disgyblion wedi i arholiadau gael eu canslo oherwydd y pandemig.

73.6% o'r graddau oedd yn uwch na C, sydd tua'r un lefel â 2020.

Dywedodd y Gweinidog Addysg bod disgyblion wedi dangos "gwydnwch aruthrol" er mwyn delio gydag effeithiau'r pandemig.

Ychwanegodd Cymwysterau Cymru ei bod wedi bod yn "flwyddyn anodd i bawb ym myd addysg".

Ond dywedodd y prif weithredwr, Philip Blaker: "Gall dysgwyr fod yn hyderus bod y cymwysterau a ddyfarnwyd yng Nghymru eleni yr un gwerth â chymwysterau a ddyfarnwyd mewn unrhyw flwyddyn arall."

Mae'r canlyniadau yn batrwm tebyg i'r hyn a welwyd yn y rhai Safon Uwch ddydd Mawrth, ble roedd bron i hanner y canlyniadau yn A neu A*.

Mae'r canlyniadau yn dangos bod:

  • 328,658 o gofrestriadau TGAU ar gyfer haf eleni - cynnydd o 8.6% o'i gymharu â 2020;

  • 73.6% wedi cael gradd C neu well - 73.8% oedd y ffigwr yn 2020 a 62.8% yn 2019;

  • 98.5% wedi cael gradd G neu well - o'i gymharu â 99.6% yn 2020 a 97.2% yn 2019;

  • 19.% o'r dysgwyr a oedd yn sefyll y Dystysgrif Her Sgiliau Cenedlaethol/Sylfaen wedi cael A neu A*.

Graddau TGAU Cymru dros amser. % o raddau fesul blwyddyn.  .

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Fy neges i fyfyrwyr TGAU eleni yw 'da iawn chi'.

"Rydych wedi wynebu cymaint o heriau dros y 18 mis diwethaf - cyfnodau clo, amser i ffwrdd oddi wrth eich ffrindiau a'ch teuluoedd, ac adegau lle rydych wedi colli allan ar lawer o'r gweithgareddau cymdeithasol y dylech fod yn eu mwynhau.

"Rydych wedi dangos gwydnwch aruthrol i oresgyn yr holl heriau hyn."

'Anodd iawn'

Dywedodd Alaw o Lannefydd, a dderbyniodd 4C, 5B a 2A, ei bod wedi bod yn flwyddyn "anodd iawn" yn astudio ar-lein.

Disgrifiad,

Disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn ymateb i'w canlyniadau TGAU

"Ma'i di bod yn anodd iawn efo ddim yn cael dod mewn a g'neud o gyd ar-lein, ond dwi'n meddwl bod pawb yn hapus efo'u graddau a 'da ni gyd 'di gweithio mor galed a fedrwn ni amdanyn nhw," meddai.

"Dwi'n hapus bod ni ddim wedi [sefyll arholiadau] oherwydd dwi'm yn meddwl fysa neb 'di bod yn barod amdanyn nhw achos bo' ni 'di methu allan ar gymaint o ysgol."

Bydd Alaw yn mynd ymlaen i astudio Seicoleg, Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, a Iechyd a Gofal yn y chweched dosbarth fis Medi.

Roedd Carwyn yn cytuno, gan bwysleisio colled yr agwedd gymdeithasol o fynychu'r ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn ei fod wedi gwneud yn "well 'na be oni'n ddisgwyl"

"Mae'r effaith mae peidio gweld ffrindiau yn roi arna chi... Mae'n reit ddrwg," meddai.

"Dwi'n meddwl bo' fi 'di neud yn dda efo fo, mae o'n lot caletach ar bobl sydd efallai mwy cymdeithasol nag eraill."

Ond er gwaethaf heriau'r flwyddyn diwethaf, dywedodd ei fod yn "hapus iawn" gyda'i raddau.

"Dwi'n hapus iawn efo nhw mwy neu lai, dipyn o A* ac As a Bs... Gwell 'na be oni'n ddisgwyl," meddai.

Bydd nawr yn mynd ymlaen i astudio Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg, Mathemateg a Saesneg Llenyddiaeth.

Dadansoddiad ein Gohebydd Addysg a Theulu, Bethan Lewis

Mae 'na iaith gyfarwydd i ddiwrnod canlyniadau - y canrannau, y graddau'n mynd lan neu lawr - ond y cyd-destun, wrth gwrs, sy'n holl bwysig.

Dyw'r cynnydd yn y graddau TGAU gorau ddim mor drawiadol a phatrwm Safon Uwch ond mae'n dal yn sylweddol ers cynnal arholiadau ddiwethaf yn 2019.

Felly oes yna unrhyw wersi ystyrlon o ganlyniadau Cymru gyfan 2021?

Nid o ran cymharu perfformiad dros flynyddoedd, ond bydd cynnydd y graddau dros y ddwy flynedd ddiwetha' yn dylanwadu ar y darlun flwyddyn nesaf pan mae disgwyl i arholiadau ddychwelyd.

Ac mae'r agendor rhwng perfformiad y plant mwyaf difreintiedig a'u cyd-ddisgyblion, sydd bob amser yn arwyddocaol, hyd yn oed yn fwy dan drefn eleni.

Ychwanegodd prif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker: "Mae'r graddau y mae dysgwyr TGAU yn eu derbyn heddiw wedi dibynnu ar farn broffesiynol athrawon a darlithwyr.

"Mae ysgolion a cholegau wedi bod wrth wraidd y dull gweithredu.

"Hoffem ddiolch iddynt am eu hymroddiad a'u gwaith caled wrth addasu'n gyflym i'r trefniadau hyblyg a roddwyd ar waith fel bod graddau'n cael eu dyfarnu.

"Cafodd arholiadau eu canslo oherwydd y pandemig ac ysgolion a cholegau oedd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau cywir i'w dysgwyr gan eu bod yn deall yr heriau a wynebwyd yn lleol."

'Cymeradwyo'r holl weithlu'

Dywedodd cyfarwyddwr undeb addysg NAHT Cymru, Laura Doel bod y graddau yn "dystiolaeth o'r gwaith caled ac ymroddgar dysgwyr ledled Cymru".

"Dylen ni oll gael hyder bod y canlyniadau yma wedi'u rhoi trwy broses fanwl oedd yn seiliedig ar dystiolaeth gan y rheiny sy'n adnabod y disgyblion orau yn academaidd - eu hathrawon," meddai.

"Allwn ni ddim tanbrisio rôl ysgolion yn y broses yma, ac fe ddylid cymeradwyo'r holl weithlu ym myd addysg am yr hyn maen nhw wedi'i wneud i gefnogi dysgwyr."

Ychwanegodd David Evans o NEU Cymru bod "y graddau wedi bod trwy broses drwyadl, ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn canmol ymdrechion pawb".

"Ar gyfer y flwyddyn nesaf mae angen i ni gael cynllun wrth gefn mewn lle er mwyn osgoi'r anrhefn, y llwyth gwaith diangen a'r pwysau a brofwyd yr haf hwn," meddai.

Pynciau cysylltiedig