Unigrwydd cefn gwlad: 'Neb i siarad efo'

  • Cyhoeddwyd
Gethin BickertonFfynhonnell y llun, Gethin Bickerton

"Ti'n gallu bod yng nghanol llwyth o bobl a dal i deimlo'n unig."

Dyma oedd profiad Gethin Bickerton, sy' wedi ei fagu ar fferm yng nghefn gwlad Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

Ar ôl dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl yn ei arddegau, mae Gethin nawr yn awyddus i rannu ei brofiad o sut i gael help a sut aeth ati i ddysgu i fyw gyda'i iechyd meddwl.

Bu Gethin yn sgwrsio gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

O gwmpas adeg TGAU 'nes i ddechrau sylweddoli yn iawn, mod i ddim yn ocê.

Dwi'n cofio'r holl bwysau gwaith oedd arna i fel person ifanc a'r pwysau i fynd mlaen i 'neud fy Lefel A.

Ac yn ogystal â hynna i gyd ro'n i'n trio delio gyda teimladau newydd gyda'n rhywioldeb, a trio ffitio mewn gyda pobl ac 'nath pob dim bron annog ei gilydd.

Roedd y pryder wedi annog pryder pellach efo'r arholiadau a pob dim fel 'na. Dwi'n meddwl 'nath pob dim ddod at ei gilydd ac wedyn hitio fi fel wal o friciau.

Rhannu teimladau

Roedd genna'i ffrindiau agos iawn yn yr ysgol ond dwi'n meddwl yn y cyfnod yna doedd genna'i ddim role model - rhywun fel ffermwr hoyw agored yn yr ardal yma yng Nghymru ar y pryd.

'Oeddwn i ddim yn nabod neb fel hynna felly o'n i ddim yn gwybod os oeddwn i'n gallu bod yn hollol fi fy hun yn fan hyn.

A dyna oedd y peth anoddaf i fi - dim cael pobl i siarad efo. Mi oedd 'na bobl o'n nghwmpas i ac, yn edrych nôl, mi fuaswn i wedi gallu siarad efo gymaint o bobl - teulu a ffrindiau cefnogol ac athrawon yn yr ysgol hefyd.

Ond ar y pryd o'n i jest yn teimlo fod neb yn mynd i ddeall. Doedd neb yn siarad amdano fo ac 'oeddwn i ddim cweit yn siŵr lle oeddwn i'n mynd i ffitio mewn efo sut oedd bywyd gwledig yng Nghymru.

Hefyd o ddiddordeb

Trobwynt

Dwi digon ffodus i allu dweud mod i wedi gallu estyn am help ar y cyfnod cywir. Ar ôl gadael yr ysgol 'nes i symud lawr i Gaerdydd a dyna pryd es i i weld cwnselydd am y tro cyntaf.

Roedd lot o bryder gyda'r newid - dwi'n siŵr bod 'na lot o bobl sy' wedi cael magwraeth gwledig ar fferm sydd wedyn wedi symud i'r ddinas i fyw neu astudio.

Mae hwnna'n shift enfawr i fywyd rhywun ac mae gwahaniaeth yn y ffordd o fyw, a dwi'n meddwl mai hwnna oedd y tic olaf yn y bocs i fi wybod 'dwi angen help gan rhywun, dwi angen bach o gymorth fan hyn'.

Ffynhonnell y llun, Gethin Bickerton
Disgrifiad o’r llun,

Gethin Bickerton

Help

Ges i gwpl o sesiynau gyda'r cwnselydd. Beth oedd yn wych oedd ges i restr o ddulliau o sut alla'i ddelio gyda'n meddyliau, gyda sut o'n i'n teimlo yn ddyddiol.

I fod yn onest es i mewn i'r sesiynau cwnsela yn gobeithio 'ar ôl rhain bydda'i wedi cael gwared ar fy mhroblemau iechyd meddwl, bydd genna'i ddim problemau o gwbl i feddwl am'.

Ond dyna'r peth cyntaf 'nath y cwnselydd ddweud wrtha'i, oedd: 'wnei di byth cael gwared o'r problemau iechyd meddwl yma - ond beth sy' gyda ti rheolaeth drosto fo yw sut wyt ti'n ymateb.'

Felly o'n i digon ffodus i allu gadael [y sesiynau] gyda swmp o ddulliau o'n i'n gallu defnyddio o ddydd i ddydd i allu helpu, a chario mlaen efo 'mywyd.

Cefn gwlad

Mae ffermwyr yn gallu mynd ddiwrnodau heb weld unrhyw un ond am eu teulu nhw. A 'de ni'n gwybod os 'de ni'n byw efo'r un bobl trwy'r amser dydych chi ddim wastad eisiau troi at y bobl sy' agosaf ato chi.

Wedyn mae'r unigrwydd yna'n rhan mawr ohono fo. Ti'n gallu bod yng nghanol llwyth o bobl a dal teimlo'n unig.

Ond dwi'n meddwl bod o'n wych rŵan bod gennym ni bobl sy' yna i ni siarad efo - mae o mor bwysig.

Deg mlynedd yn ôl doedd genna'i neb i siarad efo ond beth sy'n wych rŵan ydy heddiw mae 'na bobl allan yna a'u swydd nhw ydy i helpu pobl sy' angen yr help, ac ma' nhw ar gael pryd bynnag 'de chi angen nhw.

Geiriau o gymorth

Mae Gethin erbyn hyn yn ymddiriedolwr i'r DPJ Foundation, sy'n cefnogi'r rheini mewn cymunedau gwledig ac mewn amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl. Dyma gyngor Gethin i unrhyw un sy'n dioddef problemau iechyd meddwl:

Mae gen i dri gair i chi:

Caredig. Bydda'n garedig i ti dy hun, hwn yw un o'r pethe anodda' ei di drwyddo, falle erioed, felly mae'n iawn i rhoi dy hun gynta' a gwneud pethe er lles ti dy hun.

Gonestrwydd. Bydda'n onest efo'r pobl sydd o dy gwmpas di. Dwed yn union sut ti'n teimlo. Mae bob dim yn swnio'n wahanol pan ti'n ddeud o allan yn uchel i rywun. A bydda'n onest efo ti dy hun hefyd. Os ydy siarad efo'r pobl sydd o dy gwmpas di ddim yn bosib, mae elusennau ar gael fel y DPJ a Tir Ddewi, i enwi rhai, sy'n delio gyda'ch galwad yn broffesiynol ac yn hollol anhysbys.

Gwir. Cofiwch ddweud y gwir, dyma sut gallwn ni gynnig y cymorth gore, mwyaf addas i chi. A chofiwch bod eich emosiynau a'ch teimladau'n hollol ddilys. Mae bob dim chi'n teimlo ac yn meddwl yn ddilys, dim bwys pa mor rhesymol neu afresymol ydyn nhw. Eich gwir chi ydi o, a does neb yn gallu cymryd hynny oddi wrtha chi na dweud eich bod chi'n anghywir.

Pynciau cysylltiedig