Cyhoeddi enw bachgen 2 oed fu farw ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Cafodd Reid Steele ei ddisgrifio fel bachgen "syfrdanol, clyfar a hapus dros ben"
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw bachgen dyflwydd oed fu farw yn dilyn digwyddiad ym Mhen-y-bont ar Ogwr nos Fercher.
Cafodd Reid Steele ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl cael ei ddarganfod mewn cyflwr difrifol mewn eiddo yn ardal Broadlands y dref, a bu farw yn yr ysbyty brynhawn Iau.
Mae menyw 31 oed a gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddio'r bachgen wedi cael ei throsglwyddo i ofal gwasanaethau iechyd dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.
Mae hi'n parhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau, a dywedodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae teyrngedau wedi'u gadael ger y tŷ ble cafodd Reid ei ganfod yn ardal Broadlands
Mewn teyrnged i Reid, dywedodd ei deulu ei fod yn fachgen "syfrdanol, clyfar a hapus dros ben".
"Roedd yn caru'r ardd a'r traeth, pigo mafon a mynd am dro i gasglu cregyn," meddai'r deyrnged.
"Roedd yn fachgen bach siaradus ac roedd yn hapus i siarad gydag unrhyw un."

Roedd swyddogion fforensig i'w gweld yn yr ardal ddydd Iau
Cafodd yr heddlu eu galw i'r eiddo ychydig cyn 20:00 nos Fercher wedi adroddiad bod bachgen dyflwydd oed mewn cyflwr difrifol, a bu swyddogion yn gwneud ymholiadau drws i ddrws ddydd Iau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Davies ddydd Gwener ei fod yn apelio ar bobl "i beidio dyfalu ar y gwefannau cymdeithasol ar adeg anodd iawn i bawb".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2021