Gwasanaeth coffa i fachgen gafodd ei ganfod mewn afon

  • Cyhoeddwyd
digwyddiad coffa
Disgrifiad o’r llun,

Y Parchedig Suzanne Brumwell wnaeth arwain y gwasanaeth er cof am Logan

Mae gwasanaeth coffa wedi cael ei gynnal ger Pen-y-bont i gofio am fachgen pump oed gafodd ei ganfod yn farw mewn afon.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, yn Afon Ogwr yn Abercynffig ar 31 Gorffennaf.

Mae ei lys-tad wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac mae ef a mam Logan wedi'u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ddydd Sadwrn roedd tua hanner cant o bobl y gymuned yn bresennol mewn gwasanaeth wedi'i drefnu gan Bridgend Community Bereavement Support i gofio am Logan.

Cafodd canhwyllau eu cynnau a lilis eu plannu yn ystod y digwyddiad yn yr ardd goffa ym mhentref Tondu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Logan Williamson ei ganfod yn farw yn Afon Ogwr

Cafodd corff Logan ei ganfod am tua 05:45 ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf, wedi adroddiad fod bachgen pump oed ar goll.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach wedi iddo gael ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ei fod wedi marw.

Mae ei lys-tad John Cole, 39, bellach wedi ei gyhuddo o'i lofruddio.

Mae Mr Cole a mam y bachgen, Angharad Williamson, 30, hefyd wedi'u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd bachgen 13 oed, sydd methu cael ei enwi am resymau cyfreithiol, hefyd ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua hanner cant o bobl yn bresennol yn y gwasanaeth ddydd Sadwrn

Pynciau cysylltiedig