Teyrnged cymuned i fachgen pump oed fu farw mewn afon

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi

Mae tua 200 o bobl wedi ymgynnull i roi teyrnged i fachgen pump oed a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn afon.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Logan Williamson, yn Afon Ogwr ger Parc Pandy yn ardal Sarn penwythnos diwethaf.

Rhyddhaodd y gymuned falŵns ger y lleoliad ym Mharc Pandy ddydd Sadwrn.

Ymddangosodd ei fam a'i lys-dad gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener wedi'u cyhuddo mewn cysylltiaid â'i lofruddiaeth.

Dywedodd Tim Thomas, cynghorydd Ynysawdre, fod y digwyddiad yn y parc ddydd Sadwrn wedi dangos "faint o bobl yn union sydd wedi cael eu cyffwrdd gan y digwyddiad hwn".

"Bu galwadau hefyd am deyrnged barhaol i Logan," meddai.

"Mae 'na lawer o bobl wedi cysylltu gyda fi i siarad am eu teimladau.

"Mae yna lawer o bobl wedi cael eu brifo gan y digwyddiad a gobeithio bydd rhyw fath o gefnogaeth i'r rhai sydd wedi eu heffeithio."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd balŵns eu rhyddhau ym Mharc Pandy ddydd Sadwrn

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau a thegannau hefyd eu gadael yn y parc

Dywedodd y preswylydd Jess Saunders: "Roedd rhaid i ni ddod i weld a dod â phethau. Mae wedi bod yn sioc fawr, mae gan lawer o bobl blant bach o gwmpas yma, felly mae'n drist iawn."

Ychwanegodd Mr Thomas fod mainc goch, sef hoff liw Logan, wedi cael ei awgrymu fel teyrnged barhaol.

"Mae rhai pobl wedi gofyn a allan nhw gyfrannu tuag ato," meddai.

Mae llys-dad Logan, John Cole, 39, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae ef a mam Logan, Angharad Williamson, 30, wedi'u cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ymddangosodd bachgen 13 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, hefyd gerbron y llys ddydd Gwener wedi'i gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Pynciau cysylltiedig